Mae Eryr Swydd Essex wedi curo Morgannwg o saith wiced yn y T20 Blast yng Nghaerdydd.

Ar ôl cael eu gwahodd i fatio’n gyntaf, sgoriodd Morgannwg 140-6 ond roedd y nod o 141 yn edrych yn ddigon cyfforddus i’r ymwelwyr o’r cychwyn cyntaf, ac fe sicrhaon nhw’r fuddugoliaeth gyda thair pelawd a phedair pelen yn weddill.

Jesse Ryder oedd y chwaraewr allweddol i’r ymwelwyr wrth iddo daro 42 i osod y sylfeini.

Digon siomedig hefyd oedd noson gyntaf Dale Steyn yng Nghrys Morgannwg wrth iddo orffen yn waglaw gan ildio 32 o rediadau oddi ar dair pelawd.

Crynodeb

Ar ôl cael eu gwahodd i fatio’n gyntaf, dechrau digon siomedig gafodd Morgannwg i’r batiad wrth iddyn nhw sgorio chwe rhediad yn unig cyn colli’r capten yn yr ail belawd, ac yntau wedi darganfod dwylo diogel Dan Lawrence ar ymyl y cylch wrth yrru i’r ochr agored.

Dwyshaodd trafferthion Morgannwg ymhellach wrth iddyn nhw golli’r clatsiwr David Lloyd yn y belawd nesaf, wrth i David Masters ddarganfod ymyl ei fat a dwylo diogel y wicedwr James Foster, a Morgannwg yn 13-2.

Roedd rhywfaint o sefydlogrwydd wrth i Colin Ingram ac Aneurin Donald ddod ynghyd a Morgannwg yn 42-2 ar ddiwedd y cyfnod clatsio o chwe phelawd, wrth i’r batiwr ifanc o Abertawe ddangos i’r batiwr rhyngwladol o Dde Affrica sut i ergydio i bob cyfeiriad oddi ar y llain.

Newid cyfeiriad wnaeth yr ymwelwyr ar ddiwedd y cyfnod clatsio, gan droi at y troellwyr Ashar Zaidi a Tom Westley ond parhau i ildio rhediadau wnaethon nhw, a’r unig obaith i’r ymwelwyr oedd amrywio’r bowlwyr.

Gwnaeth hynny ddwyn ffrwyth o fewn dim o dro wrth i Ingram daro pelen fer i lawr corn gwddf Lawrence i roi ail ddaliad y noson iddo, a Morgannwg wedi cyrraedd 70-3 ar ôl hanner eu pelawdau.

Parhau i ymosod yn gadarn wnaeth Donald wrth arwain ei dîm i 100-3 erbyn diwedd y drydedd pelawd ar ddeg, ac yntau’n cyrraedd ei hanner canred oddi ar 36 gan daro pum pedwar a dau chwech ar ei ffordd i’r garreg filltir.

Daeth tro ar fyd i’r ymwelwyr wrth i Zaidi fowlio Donald i ddod â’r batiad dewr i ben, a Morgannwg yn 106-4 ar ôl 14 o belawdau. Gyda’r wiced honno dechreuodd y Cymry golli eu ffordd, ac fe gollodd Graham Wagg ei wiced wrth gael ei fowlio gan Ravi Bopara a Morgannwg yn ymlwybro i 114-5 gyda thair pelawd yn weddill.

Cyfres o gamgymeriadau a arweiniodd at Craig Meschede yn colli ei wiced. Fe darodd belen yn syth i’r awyr oddi ar ei goesau ond glaniodd honno’n ddigon diogel cyn i’r batiwr fentro ail rediad peryglus a syrthio’n brin o’r cris batio, a Morgannwg yn 120-6.

Gyda hynny, daeth y cyfle cyntaf i weld Dale Steyn yn chwarae i Forgannwg ac fe ddangosodd fod ganddo fe’r gallu i daflu ei fat at belenni llydan. Wrth aros gyda Cooke (23 heb fod allan), fe arweiniodd ei dîm i 140-6 erbyn diwedd y batiad.

Bu bron i Dale Steyn gael y dechrau perffaith gyda’r bêl, wrth i Ravi Bopara gynnig daliad i Donald yn y slip, ond yntau’n methu â dal ei afael arni, a’r batiwr yn goroesi.

Ond wnaeth e ddim goroesi’n hir wrth i’r Iseldirwr ei anfon yn ôl i’r cwtsh yn y belawd nesaf diolch i ddwylo diogel y wicedwr Mark Wallace.

Wnaeth Morgannwg ddim llwyddo i atal y llif rhediadau gyda’r wiced wrth i Jesse Ryder o Seland Newydd ddangos pa mor beryglus yw e, ac roedd yr ymwelwyr yn 58-1 erbyn diwedd y cyfnod clatsio – 16 o rediadau ar y blaen i Forgannwg o gymharu’r ddau gyfnod, ond wedi colli un wiced yn llai na’r Cymry.

Os gwnaeth David Lloyd ddangos ei ddoniau gyda’r bat yn erbyn Swydd Surrey, fe ddangosodd yn erbyn y gwrthwynebwyr heno ei fod yr un mor gyfforddus yn maesu wrth ddal ei afael ar belen a gafodd ei tharo’n galed gan Jesse Ryder i ymyl y cylch, a’r gŵr o Seland Newydd allan am 42.

Parhaodd y clatsio dan law Tom Westley wrth i Swydd Essex gyrraedd 87-2 hanner ffordd trwy eu batiad, 18 o rediadau ar y blaen i gyfanswm Morgannwg ar yr un adeg yn eu batiad nhw. Ond fe gafodd Ingram y gorau o’r batiwr wrth iddo’i fowlio yn y deuddegfed pelawd.

Ond yn y pen draw, cyrhaeddodd Swydd Essex y nod yn gyfforddus gyda thair pelawd a phedair pelen yn weddill.