Peter Hain
Mae cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yr Arglwydd Peter Hain, wedi beirniadu sylwadau Aelod Seneddol Llafur Birmingham cyn ei hymweliad â de Cymru heddiw.

Mewn erthygl yn y Western Mail, awgrymodd Gisela Stuart, AS Birmingham Edgbaston sy’n siarad ar ran yr ymgyrch Vote Leave, y byddai Cymru ar ei hennill o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond, pwysleisiodd Peter Hain wrth golwg360 mai “lle Llafur Cymru yw siarad dros bleidleiswyr Llafur yng Nghymru – nid unrhyw un arall.”

Busnesau bach

Yn yr erthygl, dywedodd Gisela Stuart y dylai “gwleidyddion Llafur sefyll gyda gweithwyr Cymru” gan ychwanegu bod nifer o bobl yng Nghymru yn dibynnu ar fusnesau bach – ac felly’n well o adael yr UE.

“Dw i jest ddim yn cytuno â hynna,” meddai Peter Hain wrth golwg360.

“Mae gan fusnesau bach yng Nghymru’r cyfle i werthu nwyddau a gwasanaethau i’r farchnad fwya’ a chyfoethoca’ yn y byd – a does yna ddim marchnad mwy heb daliadau na thariffau, ac mae busnesau Cymru – yn fawr neu’n fach – yn elwa o hynny.”

Cymru – ‘elwa mwy’

“Does gen i ddim amheuaeth fod ganddi’r hawl i ymweld â Chymru fel rhan o’i hymgyrch wrth gwrs – ond all hi ddim honni ei bod hi’n siarad dros bleidleiswyr Llafur Cymru,” meddai Peter Hain.

Ychwanegodd fod “y rhan fwyaf o gynrychiolwyr etholedig Llafur Cymru, yn Aelodau Seneddol neu’n Aelodau Cynulliad, yn gytûn mai aros yn yr undeb sydd orau ac y byddai gadael yn drychinebus.”

Esboniodd fod Cymru’n “elwa mwy o gyllid uniongyrchol gan yr UE nag unrhyw ran arall yn y Deyrnas Unedig.

“Dy’n ni’n cael mwy o fudd net – ac mae’n fantais anferthol i orllewin Cymru, y Cymoedd ac i gefnogaeth amaethyddol – a dw i ddim yn meddwl ei bod hi’n deall hynny.

“Mae Cymru hefyd llawer mwy diogel a chryfach o fewn Ewrop o ran diogelwch, buddsoddiad a swyddi,” ychwanegodd.

‘Diflasu ar y frwydr’

Esboniodd y cyn-Ysgrifennydd Gwladol ei fod am “ganolbwyntio” ar siarad â phleidleiswyr yn y Cymoedd a’r ardaloedd ehangach, gan ddweud ei fod yn ymgyrchu ym Merthyr Tudful heddiw, ond mai “cymysg” yw’r ymateb ar garreg y drws.

“Dw i’n meddwl fod llawer o’r pleidleiswyr wedi’u diflasu ar y frwydr ‘ding-dong’ yn y cyfryngau, felly dw i am ganolbwyntio ar siarad â phleidleiswyr Llafur yn y cymoedd a’r ardaloedd ehangach.”

Caiff y refferendwm ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd ei chynnal ar Fehefin 23, ymhen tair wythnos.