Mae gan Gymru’r nifer fwyaf o achosion o ddiffyg ar y galon nag unrhyw wlad arall yn y DU, yn ôl ffigurau gan y British Heart Foundation (BHF) Cymru.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf mae mwy na 30,000 o bobl yng Nghymru wedi cael diagnosis o ddiffyg ar y galon.

Mae’r elusen wedi datgelu bod pobl yng Nghymru yn fwy tebygol o ddioddef diffyg ar y galon nag unrhyw wlad arall yn y DU.

Mae diffyg ar y galon yn cael ei achosi gan amlaf gan drawiad y galon sy’n achosi niwed i gyhyr y galon na ellir ei wella. Mae’n golygu nad yw gwaed yn cael ei bwmpio o gwmpas y corff yn ddigon effeithlon.

Mae’r symptomau cynnwys blinder, bod yn fyr eich anadl a chadw dŵr.

Fe fydd hyd at draean o gleifion sy’n mynd i’r ysbyty gyda diffyg ar y galon yn marw o fewn 12 mis.

Er bod ’na feddyginiaethau ar gael i reoli’r cyflwr a’r symptomau, nid oes gwellhad a’r unig obaith i rai gyda mathau difrifol o’r cyflwr yw cael trawsblaniad y galon er mwyn achub eu bywyd.

£1m ar gyfer gwaith ymchwil

Mae BHF Cymru wedi derbyn £1 miliwn yn ddiweddar ar gyfer gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n cael ei arwain gan yr Athro Alan Williams er mwyn darganfod sut mae nam yng nghelloedd cyhyr y galon yn arwain at rythm anarferol.

Dywedodd Dr Chris George a Dr Lowri Thomas ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae pobl sydd â diffyg ar y galon mewn sefyllfa enbydus.

“Trwy wneud gwaith ymchwil rydym ni eisiau rhoi gobaith a gwell safon byw i bobl gyda chyflyrau fel diffyg ar y galon, a rhoi gobaith i’w hanwyliaid hefyd.”

Yn ystod mis Mehefin fe fydd BHF yn codi ymwybyddiaeth am y cyflwr ac yn ôl yr elusen mae angen gwneud llawer iawn mwy o waith ymchwil i ddiffyg y galon ar frys er mwyn helpu’r miloedd o ddioddefwyr yng Nghymru.