Chris Roberts, canol, gyda'r wraig Jayne a'i ferch Kat Llun: BBC
Bydd rhaglen arbennig yn cael ei darlledu heno, yn dilyn trywydd teulu o Ruddlan, Sir Ddinbych, wrth iddyn nhw ddygymod â gorfod byw gyda dementia.

Mae’r rhaglen ddogfen Panorama, ‘Living with Dementia: Chris’s Story’ wedi ffilmio teulu Chris Roberts, 55 oed, am ddeunaw mis, a hynny drwy ddefnyddio camerâu cylch cyfyng yn ei gartref a dyddiaduron fideo.

Mae Chris Roberts wedi dioddef o Alzheimer’s ers pum mlynedd, a chawn weld effaith ei salwch arno, ac ar ei wraig, Jayne, a’u merch ieuengaf, Kate.

“Hoffwn i ddweud wrth fy nheulu i gyd, fy mod i’n caru chi gyd, ar gyfer ryw ddiwrnod pan fydda’i methu dweud hynny,” meddai Chris Roberts, oedd yn ddyn busnes a beiciwr brwd cyn iddo fynd yn sâl.

Mae bellach yn cael trafferth i gerdded a siarad, ac mae ei annibyniaeth yn cael ei gymryd oddi wrtho fesul dipyn wrth i’w gyflwr waethygu.

Ar hyn o bryd, mae dros 40,000 o bobol dan 65 oed yn y DU wedi cael diagnosis o ddementia, ac mae 180,000 o bobol yn byw gyda’r cyflwr.

‘Rhaid wynebu dementia’

Dechreuodd y teulu sylwi bod rhywbeth yn bod tua thair blynedd yn ôl, a hynny am fod Chris yn ymddwyn yn “anarferol” ac yn fyr ei amynedd.

“Roeddwn yn mynd yn flin iawn, yn gweiddi arnyn nhw (ei deulu) ac yn beio nhw am bopeth, ac roedd hynny’n gwbl wahanol i fy nghymeriad,” meddai Chris.

Mae’n dweud mai’r ffordd mae’n ymdopi â’i gyflwr yw gwybod cymaint ag y gallai amdano gan mai’r “anhysbys” sy’n codi ofn arno.

“Mae rhai pobol yn ceisio cuddio rhag eu dementia, mae cuddio weithiau’n haws, ond gallwch chi ond redeg mor hir. Bydd dementia yn eich cipio a bydd yn rhaid i chi ei wynebu. Bydd rhaid i chi fyw gydag e.”

O ddysgu am ei gyflwr, penderfynodd edrych am gartref gofal yn syth, ac mae’n mynd yno ar hyn o bryd am ddiwrnod ar y tro i roi cyfle iddo fe a’i deulu gael gorffwys ychydig.

“Roeddwn yn arfer cael trafferth yn ei adael mewn cartref gofal, ond erbyn hyn, mae’n dda i’r ddau ohonom,” meddai gwraig Chris, Jayne.

“Dwi’n teimlo lot yn well am hynny nawr achos bod (ei gyflwr) wedi datblygu cymaint.”

“Teimlo ei fod yn fy ngadael”

Er hynny, mae’r afiechyd wedi cael effaith fawr ar berthynas y ddau, gyda Jayne yn dweud nad yw’r ddau yn dangos unrhyw serch tuag at ei gilydd rhagor.

“Mae pobol yn dweud ei fod fel colli rhywun, colli tameidiau ohono dros amser, ond dydy e ddim yn teimlo fel hynny i fi,” meddai Jayne.

“Mae’n teimlo fel ei fod e’n fy ngadael i… a does dim byd alla’i wneud am hynny.”

‘Dim eisiau codi ofn’

Mae Chris Roberts a’i deulu yn ceisio gwneud y mwyaf o fywyd, a hynny cyn i’w gyflwr fynd yn rhy wael.

“Dwi’n gobeithio bydd y rhaglen hon yn helpu pobol a ddim yn codi ofn arnyn nhw. Dwi ddim wedi’i gwneud i godi ofn ar neb,” meddai Chris.

“Dwi’n dal i fyw, mae bywyd gennyf i o hyd, ond o ansawdd gwahanol.”

Bydd rhaglen Panorama, ‘Living with Dementia: Chris’s Story’, ar BBC One nos Iau, 2 Mehefin am 8 o’r gloch.