Pafiliwn yr Eisteddfod (Llun g360)
Fe ddaeth mwy na 15,000 o bobol i faes Eisteddfod Sir y Fflint ddydd Mercher yr ŵyl, gostyngiad bach iawn ar y llynedd.
Yr union ffigwr oedd 15,296 – gostyngiad o 80 ar Eisteddfod Caerffili y llynedd.
Mae’n dilyn y patrwm arferol, mai dechrau’r wythnos sydd fwya’ poblogaidd ac mae’r trefnwyr yn ffyddiog y byddan nhw’n cyrraedd y targed o tua 90,000 erbyn diwedd yr wythnos.
Hyd yn hyn, mae’r ffigurau yn yr eisteddfod agosa’ erioed at y ffin â Lloegr wedi bod yn dda, gyda 18,935 ar y maes ar ddiwrnod cyntaf a 20,573 ddydd Mawrth.
Y cyfanswm hyd yma yw 54,804..
Digwyddiadau’r dydd
Bu Ysgol Maes Garmon Yr Wyddgrug yn rhannu ei neges Heddwch ac Ewyllys Da ar y llwyfan heddiw, ac fe lansiodd yr Urdd ei hymgyrch i gasglu ymatebion o negeseuon y gorffennol.
Miss Galaxy Cymru ei hun sef Kia Owens o Rhyl, ddaeth i’r maes hefyd, gan sôn am ei phrofiadau o gystadlu sawl tro ar lwyfan yr Urdd yn dawnsio disgo.
Lois Llywelyn Williams o Ben Llŷn enillodd y Fedal Ddrama, gyda’i chwaer Mared, yn dod yn drydydd.
Ac fe gafodd golwg360 y cyfle i sgwrsio â Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, i’w holi am ei obeithion am y Gymraeg am y pum mlynedd nesaf.