Fe gafodd dyn ei anafu’n ddifrifol iawn mewn damwain ffordd ychydig filltiroedd o faes Eisteddfod yr Urdd.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gofyn am dystion i’r digwyddiad am 9.10 y bore yma yn ardal Queensferry.

Mae’n ymddangos bod motobeic Yamaha mewn gwrthdrawiad gyda lorri DAF ar ffordd y B5129 pan gafodd y beiciwr anafiadau sy’n peryglu ei fywyd.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad roi gwybod i’r heddlu ar 101.