Owain Fôn Williams
Mae Owain Fôn Williams wedi dweud wrth Golwg360 mai “teimlad anhygoel” fydd cael mynd i Ffrainc ar gyfer Ewro 2016.

Cafodd y golwr 29 oed o Ddyffryn Nantlle ei gynnwys yn y garfan o 23 a gafodd ei chyhoeddi gan reolwr Cymru Chris Coleman brynhawn dydd Mercher.

Ond fe ddywedodd wrth Golwg360 y byddai wedi teithio i Ffrainc hyd yn oed pe na bai e wedi cael ei ddewis yn un o dri golwr ar yr awyren i Ffrainc.

Darllenwch y cyfweliad cyflawn yng nghylchgrawn Golwg ddydd Mercher nesaf (Mehefin 7).