Mae gwefan ariannol wedi rhybuddio cefnogwyr Cymru rhag yfed yn wirion yn ystod pencampwriaeth Ewro 16 yn Ffrainc.

Yn ôl y wefan gymharu prisiau, Gocompare, fe allai teithwyr golli eu hawl i yswiriant os bydd damwain yn digwydd oherwydd yfed gormod.

Mae’n un o res o ddarnau o gyngor y  mae’r wefan yn ei gynnig i gefnogwyr o wledydd Prydain cyn y gystadleuaeth bêl-droed ryngwladol.

Mae’r rhan fwya’ o’r lleill yn ymwneud â phroblemau wrth logi a gyrru ceir.

Biliau mawr

“Os byddwch yn yfed gormod neu’n cael damwain ac mai’r farn yw mai meddwdod oedd y prif reswm, fe allai eich cais yswiriant gael ei wrthod,” yn ôl Alex Edwards, llefarydd yswiriant teithio ar ran Gocompare.

Fe allai hynny arwain at filiau meddygol sylweddol, meddai, gan ychwanegu y gallai yfed mewn mannau cyhoeddus, yn groes i gyngor awdurdodau lleol, arwain at ganlyniad tebyg.