Mae Morgannwg yn croesawu Eryr Swydd Essex i Gaerdydd nos Fercher ar ôl trechu Swydd Surrey o wyth wiced ar eu tomen eu hunain yng nghystadleuaeth y T20 Blast yr wythnos diwethaf.

Ar ôl teithio o India lle’r oedd yn cynrychioli Gujarat, fe fydd bowliwr cyflym De Affrica, Dale Steyn yn ymddangos yng nghrys Morgannwg am y tro cyntaf ac fe fydd yn ymuno â bowlwyr cyflym a wnaeth argraff yn eu gêm gyntaf, wrth i Timm van der Gugten gipio pedair wiced am 14.

Mae angen chwe wiced ar y troellwr llaw chwith Dean Cosker i gyrraedd y garreg filltir o 100 wiced yn y T20 i Forgannwg.

Gêm gyfartal gafodd y ddwy sir yn y Bencampwriaeth yr wythnos diwethaf, ond dechrau digon siomedig gafodd Morgannwg yn y gystadleuaeth honno hyd yn hyn.

Ymhlith sêr Swydd Essex mae’r chwaraewr amryddawn Ravi Bopara, Jesse Ryder, Wahab Riaz a Ryan ten Doeschate, ac maen nhw wedi’u cefnogi’n dda gan y batiwr ifanc Tom Westley a’r wicedwr profiadol James Foster.

Cyrhaeddodd Swydd Essex yr wyth ola’r tymor diwethaf wrth i Forgannwg golli allan o drwch blewyn.

Carfan Morgannwg: Jacques Rudolph (capten), David Lloyd, Colin Ingram, Aneurin Donald, Chris Cooke, Craig Meschede, Graham Wagg, Andrew Salter, Dale Steyn, Timm van der Gugten, Michael Hogan, Dean Cosker, Mark Wallace, Nick Selman, James Kettleborough, Dewi Penrhyn-Jones.

Carfan Swydd Essex: Ravi Bopara (capten), Jesse Ryder, Tom Westley, Dan Lawrence, Ryan ten Doeschate, Ashar Zaidi, James Foster, Wahab Riaz, Matt Dixon, Matt Quinn, Callum Taylor, David Masters