Mae Marks & Spencer wedi ymddiheuro am gynddeiriogi cefnogwyr pêl-droed Cymru ar ôl dangos poster yn ei siop yng Nghaerdydd oedd yn ymddangos fel petai’n hyrwyddo tîm Lloegr ym mhencampwriaeth Ewro 2016.
Roedd y cwmni wedi dod dan y lach am ddangos y poster yn ei siop yng Nghroes Cwrlwys, Caerdydd yn dweud mai nhw oedd cyflenwyr siwtiau swyddogol tîm Roy Hodgson.
Mae’r poster – sy’n dangos chwaraewyr Lloegr Kyle Walker, Chris Smalling a Joe Hart – wedi codi gwrychyn cefnogwyr tîm Cymru.
Mae JD Sports a Mars hefyd wedi cael eu beirniadu am hybu tîm Lloegr yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Wrth fynegi ei siom ar Twitter dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru Neil McEvoy: “Y tro diwethaf nes i edrych roedd Croes Cwrlwys yng Nghymru.”
‘Wedi’u hanwybyddu’
Ewro 2016 yw’r tro cyntaf i dîm pêl-droed Cymru chwarae mewn rowndiau terfynol twrnament fawr ers Cwpan y Byd yn 1958.
Ond mae cefnogwyr Cymru yn honni bod y eu camp wedi cael ei hanwybyddu gan nifer o gwmnïau mawr.
Yn gynharach y mis hwn roedd JD Sports ym Mae Caerdydd wedi derbyn cwynion ar ôl dangos posteri o fachgen ifanc yn gwisgo crys Lloegr – cyn eu newid gyda delweddau o dîm Cymru.
Ac mae cefnogwyr Cymru wedi galw am foicotio cwmni bwyd Mars ar ôl honiadau eu bod yn cefnogi tîm Lloegr.
Dywed Marks & Spencer ei fod wedi ymddiheuro am “achosi unrhyw loes” ac wedi anfon ymateb cefnogwyr Cymru i’w siop yng Nghroes Cwrlwys.