Mae Dale Steyn newydd lanio yng Nghymru ar ôl bod yn India
Fe fydd momentwm yn bwysig i dîm criced Morgannwg wrth iddyn nhw geisio adeiladu ar eu buddugoliaeth dros Swydd Surrey yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast, yn ôl eu bowliwr cyflym newydd Dale Steyn.
Mae’r bowliwr cyflym o Dde Affrica wedi glanio yng Nghaerdydd ar ôl cynrychioli Gujarat yn yr IPL yn India, ac fe fydd e ar gael ar gyfer hanner gemau Morgannwg cyn i’r Awstraliad Shaun Tait gyrraedd.
Ar ôl dechrau siomedig yn y Bencampwriaeth, mae Steyn yn deall pwysigrwydd y gystadleuaeth ugain pelawd i’r sir o dan gapteniaeth ei gydwladwr Jacques Rudolph.
Dywedodd Steyn: “Fe dreuliais i neithiwr yn nhŷ Jacques yn sgwrsio’n gyffredinol am y clwb a Chaerdydd. Gwnaeth y clwb yn eitha da y llynedd ac mae hi wedi bod yn wahanol eleni yn y gêm pedwar diwrnod.
“Ond maen nhw ar frig y tabl yn y T20 nawr ar ôl un gêm a gall hynny barhau. Os gallwn ni ennill un arall ac adeiladu momentwm, gobeithio y gall hynny barhau.”
Ond mae Steyn yn sylweddoli nad oes sicrwydd y bydd popeth yn mynd o blaid Morgannwg er gwaetha’r dechrau cryf yn y gystadleuaeth.
“Gall unrhyw beth ddigwydd. Galla i fowlio pelen wael a chipio wiced, neu belen dda all gael ei tharo am bedwar. Gobeithio os aiff pethau’n dda yn ystod y mis nesaf, gallwn ni ennill rhai gemau, bydd y clwb yn mwynhau hynny ac y gallwn ni ddenu torf i mewn.”
Yn sicr, fe fydd y dorf yn awyddus i weld un o fowlwyr gorau’r byd ar ei orau, ac mae Steyn yn addo dod ag egni i’r tîm.
“Rwy am redeg i mewn a chipio wicedi heb ildio rhediadau ond yn anffodus, alla i ddim sicrhau hynny.
“Ond rhywbeth y galla i sicrhau yw llawer o egni a helpu’r tîm ar y cae ac oddi arno a rhoi o ’ngorau pan fo’r bêl yn fy llaw.”
Bydd Steyn yng ngharfan Morgannwg i wynebu Swydd Essex yng Nghaerdydd nos Fercher.