Llun: PA
Mae mudiadau ymgyrchu wedi cyflwyno neges i Lywodraeth Cymru ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw er mwyn tynnu sylw at y ‘degau o filoedd’ o blant sydd ddim yn cael eu haddysg drwy’r Gymraeg.
Fe gynhaliodd Cymdeithas yr Iaith ymgyrch i symud at addysg Gymraeg i bob disgybl yn y wlad ac maen nhw’n dweud bod y sefyllfa ar hyn o bryd yn “amddifadu” plant rhag magu sgiliau Cymraeg.
Yn ôl ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru, yn 2014, roedd 26,581, neu 78%, o ddisgyblion saith oed ddim yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Cymdeithas am weld y Llywodraeth yn dileu’r ‘Cymraeg ail iaith’ o’r cwricwlwm a chyflwyno peth addysg Gymraeg i bob disgybl – argymhellion a gafodd eu hamlinellu gan adroddiad yr Athro Sioned Davies.
Yn galw ar y Llywodraeth i newid ei darpariaeth addysg Gymraeg oedd cynrychiolydd undeb athrawon UCAC, Nick Thomas o’r mudiad Syfflag – sy’n ymgyrchu dros addysg Gymraeg yn Sir y Fflint, a Toni Schiavone o Gymdeithas yr Iaith.
‘Y Fflint yn arfer bod o flaen y gad’
“Ar un adeg, roedd Sir y Fflint yn arwain y gad o ran datblygu addysg Gymraeg ac yn sicrhau bod yr iaith yn cael ei throsglwyddo i’r genhedlaeth nesaf,” meddai Nick Thomas.
“Buodd tua mil o blant yn Ysgol Maes Garmon yn yr wythdegau. Bellach, mae llawer yn llai na hynny, a does dim cynnydd wedi bod o ran ysgolion cynradd chwaith. Mae’n rhaid i’r cyngor wneud llawer yn well er mwyn bodloni dymuniad pobl leol sydd eisiau i’w plant fod yn rhugl eu Cymraeg.”
Yn ôl Toni Schiavone, mae cynnal y system addysg fel y mae yn “arwain at ddirywiad yr iaith.”
“Mae angen trawsnewid y system fel bod pob plentyn yn dod allan o’r ysgol yn rhugl eu Cymraeg. Dyna fydd ei angen er mwyn i Lywodraeth Cymru gyflawni eu targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg,” meddai.
“Mae’n rhaid cymryd camau dewr ymlaen a hynny ar frys.”
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, yn gofyn am gyfarfod i drafod diwygio’r system addysg.
‘Gwaith cyffrous’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi ymrwymo’n llawn i ddatblygiad parhaus addysg cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg yng Nghymru.
“Fel rhan o hyn, mae gwaith cyffrous wedi cychwyn ar ddatblygu cwricwlwm newydd a fydd yn cynnwys parhad o ddysgu ar gyfer yr iaith Gymraeg.
“Trwy ymestyn Siarter y Gymraeg ar draws y wlad byddwn hefyd yn hyrwyddo a chynyddu defnydd plant o’r Gymraeg mewn cyd-destun cymdeithasol.”