Kia Owens a Mistar Urdd (Llun g360)
Mae cystadleuydd Cymru ym mhasiant Miss Galaxy eleni wedi bod yn ymweld â maes Eisteddfod yr Urdd yn Fflint ddydd Mercher yn rhan o’i thaith o gwmpas y wlad.
Ac yn ôl Kia Owens ei dymuniad penna’ oedd cael y cyfle i gyfarfod eicon yr ŵyl, Mistar Urdd, fu’n dathlu’i ben-blwydd yn 40 oed ar y maes ddydd Mawrth.
Bydd y frenhines harddwch yn cystadlu yn rowndiau terfynol rhyngwladol Miss Galaxy yn Orlando, America ym mis Awst, a hynny ar ôl ennill cystadlaethau Sir Dinbych ac yna Miss Cymru.
Mae gan Kia Owens hanes o lwyddiant ar lwyfan yr Urdd hefyd gan gystadlu mewn eisteddfodau rhwng 2002 a 2008 ac ennill yn y cystadlaethau dawnsio disgo sawl gwaith.
Dawnsio am chwe awr
“Mae’r paratoadau’n intense ar y funud!,” meddai Kia Owens wrth golwg360 wrth drafod cystadleuaeth Miss Galaxy eleni.
“Dw i’n gwneud tipyn o deithio o gwmpas y wlad, yn gwneud gwaith elusennol ac yn y blaen.
“Yn amlwg mae tipyn o ymarfer a hyfforddiant pasiant, a dydi pobol ddim yn gweld yr ochr yna o bethau weithiau. Mae’n rhaid i chi weithio ar eich delwedd a chreu cysylltiadau â phobol o’ch gwlad chi a phobol yn y gymuned.
“Ar hyn o bryd rydan ni’n codi arian ar gyfer elusen y Wildlife Warriors, felly mae gen i danceathon yn dod i fyny wythnos nesa’ ble byddwn ni’n dawnsio am chwech awr yn ddi-stop – bydd hynny’n dipyn o her, yn enwedig gan nad ydw i wedi dawnsio ers sbel!”
Mistar a Miss
Mae gan y ferch o’r Rhyl hefyd atgofion melys o gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn ei dyddiau ysgol, gan gynnwys ennill y dawnsio disgo grŵp ddwywaith yn ogystal â’r dawnsio cymysg, gan gystadlu ar ei phen ei hun hefyd.
“Dw i mor gyffrous i fod yma ar y maes,” meddai’r ferch sydd yn stiwardes awyrennau.
“Dw i’n cofio [yn 2002] roedden ni ar y llwyfan pan wnaethon nhw gyhoeddi ein bod ni wedi ennill, ond doedden ni ddim cweit wedi sylwi hynny tan i bobol ddechrau dathlu a gweiddi, ac wedyn fe gawson ni’r tlws mawr – yn bendant fy atgof gorau!”
Yn ystod ei hymweliad yr wythnos hon fodd bynnag, dim ond un peth sydd ar ei meddwl: “Dw i really eisiau cyfarfod Mistar Urdd, allai ddim aros!”.