Hanna Huws, Cymru dros Heddwch
Wrth i Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd gael ei pherfformio ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd heddiw, mae’r Urdd wedi cyhoeddi ymgyrch i chwilio am negeseuon coll y gorffennol.
Mae’r Urdd, ar y cyd â mudiad Cymru dros Heddwch, wedi bod yn chwilio archifau’r Llyfrgell Genedlaethol, ac wedi dod ar draws ymatebion i’r neges o ledled y byd.
Y bwriad yw casglu’r deunydd gyda Chasgliad y Werin, a sicrhau nad yw’r atgofion am y negeseuon yn cael eu hanghofio.
Er bod ganddyn nhw gopïau caled o negeseuon y gorffennol, mae apêl ar y cyhoedd i anfon eu hatgofion neu ymatebion i’r negeseuon, neu unrhyw archif perthnasol.
Cafodd y neges ei hanfon am y tro cyntaf yn 1922, ac eleni, Ysgol Maes Garmon sy’n perfformio’r neges, ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint, a’i neges yw ‘Dewis a Chydwybod.’
Catrin James o’r Urdd, sydd wedi bod yn cydweithio â mudiad Cymru dros Heddwch ar y prosiect, yn siarad â golwg360:
Mynd â’r neges i San Steffan
Bydd Ann Clwyd AS Cwm Cynon, sy’n wreiddiol o Sir y Fflint, yn tynnu sylw at waith heddwch ieuenctid yr Urdd yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.
“Ces i brofiadau anhygoel o fod yn aelod o Aelwyd yr Urdd yng Nghaer, gan gynnwys darllen Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn y pumdegau mewn gwasanaeth ieuenctid arbennig yn Eglwys Gadeiriol Caer,” meddai.
“Y gwir amdani yw fe gydiodd y profiad ges i gyda’r Urdd yn fy arddegau o fynychu Ysgol Haf Pantyfedwen, yn Borth, Aberystwyth â fy nychymyg.
“Bu’r ddarlith gawsom gan ŵr o’r Cenhedloedd Unedig yn sôn am newyn, rhyfeloedd a thrallodau mawr ledled y byd yn ysgogiad i mi ddechrau meddwl am degwch a hawliau cyfartal i bobl ym mhob cwr o’r byd.”