Heddlu a stiward ar faes carfannau Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016
Mae trefnwyr Eisteddfod yr Urdd yn Fflint wedi dweud eu bod wedi cynyddu diogelwch ar eu maes carfannau ar ôl i feiciau gael eu dwyn oddi yno yng ngolau dydd.

Cafodd swyddogion wybod ddydd Mawrth am y lladradau, ac mae golwg360 yn deall i gyfarfod diogelwch brys gael ei gynnal neithiwr i drafod y broblem.

Mae’r heddlu hefyd wedi bod mewn yn trafod â’r trefnwyr yn ogystal â’r rheiny gafodd eu heffeithio.

“Gallwn gadarnhau fod dau feic wedi eu dwyn o’r Maes carafanau yn ystod y dydd ddoe,” cadarnhaodd llefarydd ar ran yr Urdd.

“Rydym wedi cynyddu’r nifer o swyddogion diogelwch sydd yno a byddem yn annog carafanwyr i gloi eiddo yn ddiogel.”

Mae swyddogion heddlu wedi bod yn patrolio’r maes yn Fflint ers dechrau’r ŵyl ieuenctid yr wythnos hon.

Ond mae’r mynediad i’r maes carfannau y tu allan i berimedr y maes ei hun, gyda’r mynediad wedi bod yn agored i unrhyw un o’r meysydd parcio.