Mae arolwg ar ran Llywodraeth Prydain wedi dangos bod 68% o’r gwaith nwy sy’n cael ei gwblhau yng Nghymru’n anniogel.
Cafodd yr arolwg ei gwblhau gan Gas Safe Register, yr unig gynllun cofrestru nwy yng ngwledydd Prydain.
Fe ddaeth i’r casgliad bod mwy na miliwn o gartrefi yng ngwledydd Prydain mewn perygl o ganlyniad i weithwyr nwy anghyfreithlon.
Dywedodd 11% yn unig o’r rheiny yng Nghymru oedd wedi ymateb i’r arolwg na fydden nhw’n gadael i beiriannydd nwy groesi trothwy’r drws heb ofyn unrhyw gwestiynau.
Mae’r peryglon sy’n deillio o weithwyr anghyfreithlon yn cynnwys gwenwyn carbon monocsid, nwy yn gorlifo, tân a ffrwydradau.
Cafodd 186,000 ffwrn nwy, 147,000 bwyler, 75,000 tân nwy, 32,000 mesurydd nwy a 645,000 o bibau eu gosod gan weithwyr anghyfreithlon dros gyfnod o flwyddyn.
‘68% yn ddiffygiol’
O blith y cyfarpar nwy a gafodd ei archwilio gan Gas Safe Register, roedd 68% yn ddiffygiol, ac roedd 28% mor ddiffygiol nes bod rhaid eu datgysylltu ar unwaith.
Er bod 76% o Gymry wedi dweud y bydden nhw’n gofyn am gael gweld cerdyn adnabod gweithiwr, dim ond traean fyddai’n gwneud hynny yn ôl ymchwil Gas Safe Register eu hunain.
Dywedodd y prif weithredwr Jonathan Samuel: “Mae llawer gormod o bobol yn gadael gosodwyr nwy heb eu cofrestru i mewn i’w cartrefi gan roi eu teuluoedd mewn perygl.
“Rydym yn annog pobol i ymddiried yn y triongl. Edrychwch am driongl Gas Safe Register ar gerdyn adnabod eich peiriannydd nwy – mae miloedd o bobol eisoes yn gwneud hynny – a sicrhewch eich bod yn gwirio eich cyfarpar nwy bob blwyddyn.”