Cyffuriau cyfreithlon Llun: Heddlu Gwent
Mae’r heddlu wedi dweud eu bod nhw’n barod i ddefnyddio pwerau newydd i atal niwed sy’n cael ei achosi gan gyffuriau cyfreithlon – neu ‘legal highs’.

Bydd y Ddeddf Sylweddau Seicoweithredol yn dod i rym heddiw er mwyn cyfyngu ar gynhyrchu, cyflenwi a mewnforio sylweddau seicoweithredol newydd.

Fe all troseddwyr wynebu saith mlynedd yn y carchar o dan y ddeddf newydd.

Mae Heddluoedd Cymru wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o’r ddeddfwriaeth newydd, sy’n cynnwys rhoi amser i berchnogion siopau a chyflenwyr eraill ddod i’r arfer â’r drefn newydd ac i helpu i geisio lleihau faint o sylweddau peryglus sy’n cael eu gwerthu.

Maen nhw hefyd wedi cydweithio ag awdurdodau lleol i addysgu defnyddwyr a darpar-ddefnyddwyr am y ddeddf newydd a pheryglon cymryd sylweddau newydd nad oes gwybodaeth amdanyn nhw.

Mae’r dulliau o weithredu’r ddeddf newydd yn cynnwys rhybudd am waharddiad, rhybudd i fangreoedd lle maen nhw’n cael eu gwerthu, a gorfodi pobol i roi’r gorau i werthu, cyflenwi neu gadw sylweddau o’r fath.

‘Neges glir am y peryglon’

Mae gan yr heddlu rymoedd newydd hefyd i stopio a chwilio pobol a cherbydau, mynd i mewn i adeiladau gan ddefnyddio warrant, a chipio a dinistrio sylweddau.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu Gwent, Jeff Cuthbert ei fod yn croesawu’r ddeddfwriaeth newydd, a’i bod yn “anfon neges glir am beryglon cymryd y sylweddau hyn”.

Ychwanegodd: “Cyn y ddeddfwriaeth newydd, roedd y sylweddau hyn ar gael drwy ‘Prif Siopau’ bondigrybwyll yn ein dinasoedd a’n trefi lleol.

“Cafodd hyn effaith andwyol ar rai o’n cymunedau lleol, gan annog pobol ifanc i ymgynnull ar y strydoedd, gan ychwanegu at ymddygiad gwrthgymdeithasol.”

Mae Heddlu Gwent yn annog y cyhoedd i roi gwybod iddyn nhw am weithredoedd anghyfreithlon mewn perthynas â’r sylweddol, drwy eu ffonio ar 101.