Arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, yn ymuno a gorymdaith y gweithwyr dur yn Llundain heddiw Llun: Lauren Hurley/PA Wire
Mae grŵp o reolwyr busnes Tata yn y DU sydd wedi cyflwyno cynnig i brynu asedau’r cwmni dur yn y DU wedi ei gwneud hi’n glir ei fod yn gwneud cais yn unigol yn hytrach nag ar y cyd gyda grŵp arall.

Bu adroddiadau fod Excalibur wedi cyfarfod â chynrychiolwyr cwmni Liberty House i drafod y posibilrwydd o gydweithio.

Y gred yw mai dyma’r ddau grŵp mwyaf tebygol o brynu busnes dur Tata yn y DU, er bod hyd at bum cwmni arall wedi dangos diddordeb.

Fe gyhoeddodd Excalibur ddatganiad yn gwneud yn glir nad ydyn nhw’n gweithio gydag unrhyw un arall.

“Mae dyfalu diweddar yn y wasg wedi awgrymu nad yw Excalibur yn bwrw ymlaen yn annibynnol. Mae hyn yn anghywir,” meddai’r cwmni.

“Mae Excalibur yn gweithio’n unigol a dydyn ni ddim yn ystyried gweithredu ar y cyd ag unrhyw drydydd parti.”

Yn y cyfamser mae bwrdd gweithredol Tata yn cyfarfod ym Mumbai heddiw i lunio rhestr fer o brynwyr posib, wrth i gannoedd o weithwyr dur orymdeithio yn Llundain i gadw pwysau ar y cwmni a’r Llywodraeth.

Yn ystod yr orymdaith, roedd gweithwyr yn gweiddi ‘Achubwch ein dur’ wrth iddyn nhw fynd heibio San Steffan.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ac Ysgrifennydd Busnes Prydain, Sajid Javid wedi teithio i Mumbai ar gyfer y trafodaethau.