Cafodd ysgol breifat yn Llanelli ei chau am gyfnod fore Mercher.
Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol St Michael’s ac mae ymchwiliad ar y gweill.
Dywedodd yr heddlu bod yr ysgol wedi cael ei chau “fel rhagofal”, ac mae’r staff a’r disgyblion wedi cael dychwelyd erbyn hyn.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Mae’r heddlu’n trin chwarae cast yn ddifrifol dros ben gan ei bod yn dargyfeirio adnoddau’r heddlu ac yn tarfu ar y cyhoedd ac yn eu gofidio.”
Dywedodd yr heddlu nad oes cyswllt rhwng y digwyddiad hwn a chau Ysgol Gynradd Dafen yn yr ardal ddydd Llun am resymau tebyg.
Ar ôl i negeseuon anghywir gael eu rhannu ar wefannau cymdeithasol ddydd Llun, bu’n rhaid cau Ysgol Gynradd y Bryn hefyd.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.