Yr Arglwydd Sugar, Llun: PA
Mae’r Arglwydd Alan Sugar wedi cael ei benodi’n Tsar Mentergarwch Llywodraeth Prydain fel rhan o ymgyrch i annog pobol ifanc i sefydlu eu busnesau eu hunain.
Mae disgwyl i arweinydd rhaglen The Apprentice deithio o amgylch ysgolion yn Lloegr yn rhoi cyngor i bobol ifanc sydd ar fin gadael yr ysgol ac sy’n bwriadu mentro i’r byd busnes.
Daw’r penodiad ar ôl i’r entrepreneur adael y Blaid Lafur cyn yr etholiad cyffredinol y llynedd, gan feirniadu’r blaid am symud yn rhy bell i’r chwith.
Mae’r penodiad wedi cael ei groesawu gan y Gweinidog Sgiliau Nick Boles, a ddywedodd fod gan yr Arglwydd Sugar “hygrededd enfawr ymhlith pobol ifanc”.
Ychwanegodd yr Arglwydd Sugar: “Rwy wrth fy modd o gael ymgymryd â’r her hon. Fe wnes i adeiladu busnesau llwyddiannus gyda chefnogaeth cannoedd o bobol ifanc dalentog a ddysgodd eu sgiliau wrth eu gwaith – yr union sgiliau rydych chi’n eu dysgu fel rhan o brentisiaeth.
“Ond does dim digon o bobol ifanc sy’n gwybod am brentisiaethau a’r hyn maen nhw’n ei gynnig, ac mae rhy ychydig yn teimlo bod ganddyn nhw’r gallu i sefydlu eu busnesau eu hunain.”
Ychwanegodd ei fod yn awyddus i greu “ysbryd entrepreneuraidd” ymhlith pobol ifanc.