Canghellor yr Almaen, Angela Merkel Llun: PA
Mae Llywodraeth yr Almaen wedi penderfynu ar fesurau newydd i helpu mewnfudwyr newydd y wlad i integreiddio i’w bywydau newydd.
Dywedodd y Canghellor, Angela Merkel, bod y mesurau yn “garreg filltir” ac y byddan nhw’n ceisio cydbwyso “cyfleoedd a rhwymedigaethau” newydd ar gyfer mewnfudwyr.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae tua 1.1 miliwn o fewnfudwyr newydd wedi cofrestru yn Yr Almaen, llawer ohonynt yn ffoi rhag rhyfel a thlodi yn Syria, Afghanistan ac Irac.
Bydd mwy o fanylion am y mesurau yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach heddiw, ond maen nhw’n cynnwys creu mwy o gyrsiau i fewnfudwyr a lleihau amseroedd aros dros gyrsiau integreiddio.
Bydd mwy o bwyslais ar ddysgu Almaeneg yn y cyrsiau hefyd.
Er i Gabinet y wlad gytuno ar y mesurau, dydyn nhw heb gael sêl bendith y senedd eto.