Llun: Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi ystyriaeth lawnach i effeithiau cynyddol datganoli ar holl rannau’r Undeb, yn ol adroddiad newydd gan Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi.

Mae’r adroddiad, ‘The Union and devolution’ yn awgrymu fod y llywodraeth yn cymryd yr Undeb rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon “yn ganiataol.”

Am hynny, mae’r Pwyllgor yn dweud na ddylai cynlluniau i ddatganoli yn y dyfodol gael eu gwneud “ar draul sefydlogrwydd, cydlyniad na hyfywedd yr Undeb,” am eu bod yn credu fod cenhedloedd y DU yn gryfach o fod gyda’i gilydd.

Maen nhw’n galw felly ar Lywodraeth y DU i adnabod pa gyfrifoldebau cyhoeddus sy’n angenrheidiol ac a ddylai felly barhau’n ddyletswydd i Lywodraeth y DU.

 

‘Datganoli ac anghofio’

 

Yn ôl yr Arglwydd Lang, Cadeirydd y Pwyllgor, “ers 1999, mae datganoli wedi’i arwain yn ôl y galw bob yn dipyn.”

Er hyn, dywedodd nad yw’r Pwyllgor “wedi gweld unrhyw dystiolaeth am feddwl strategol ynglŷn ag effaith cynyddol hyn ar yr Undeb gyfan.”

Dywedodd fod Llywodraeth y DU wedi “methu ag addasu” i ddatganoli, ac yn hytrach na’r agwedd o “ddatganoli ac anghofio” sydd wedi’i fabwysiadu yn y gorffennol, dywed y pwyllgor fod angen i Lywodraeth y DU ymgysylltu’n fwy â’r llywodraethau datganoledig.

 

“Mae angen delio â pholisïau sydd wedi’u rhannu neu’n gorgyffwrdd yn gall, gyda phob gweinyddiaeth yn ymwybodol  o fuddiannau’r llall.”

 

Asesu’r effaith

 

Wrth fynd i’r afael â galwadau tros ddatganoli yn y dyfodol, mae’r pwyllgor yn awgrymu y dylid llunio Asesiad o Effaith Datganoli – fel y gall cenhedloedd eraill y DU ystyried yr effeithiau arnyn nhw.

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud y dylai unrhyw gynlluniau tros refferendwm annibyniaeth yn y dyfodol gael eu gosod mewn deddfwriaeth gan Senedd y DU  o flaen llaw.

 

Maen nhw hefyd am weld y Fformiwla gyllido Barnett yn cael ei newid i fod yn system gyllido yn ddibynnol ar anghenion yr ardal ddatganoledig.