Cafodd 71% o alwadau ‘coch’ – y math mwyaf difrifol – eu hateb o fewn yr amser targed o wyth munud, yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi am y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru.
Targed y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru yw ateb 65% o alwadau o’r fath lle mae bywyd unigolyn mewn perygl, o fewn wyth munud.
Maen nhw wedi cyrraedd y nod bob mis ers dechrau’r cynllun peilot.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething bod y Gwasanaeth Ambiwlans wedi “rhagori” y mis yma.
‘Rhagori’
Meddai: “Er bod y galw’n cynyddu’n gyson, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru unwaith eto wedi rhagori ar y targed o wyth munud ar gyfer ymateb i alwadau at bobl y mae eu bywydau yn y fantol.
“Llwyddwyd i gyrraedd o fewn llai nag wyth munud at fwy na saith o bob deg o bobl a oedd angen sylw brys, ac o fewn pum munud a hanner at hanner y cleifion o’r fath.
“Rwy’n falch o weld bod y model ymateb clinigol newydd yn sicrhau bod pobl sydd angen sylw ar unwaith gan ein clinigwyr ambiwlans brys a’u partneriaid yn cael y gofal angenrheidiol.
“Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gweithio’n galed i wella’i berfformiad clinigol yn ogystal â’i allu i ymateb mewn ardaloedd gwledig fel Powys. Hoffwn i ddiolch i’r staff am eu hymdrechion.”
‘Pryder’
Er ei fod yn croesawu’r newyddion, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar mewn datganiad bod y ffigurau yng nghefn gwlad yn “bryderus”.
Dim ond 56% o alwadau a gafodd eu hateb ym Mhowys o fewn wyth munud, a dywedodd Millar fod hynny’n “peryglu bywydau”.
Ychwanegodd: “Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw ers amser hir am fesuryddion perfformiad ambiwlansys mwy cyson ar draws y DU er mwyn cael cymharu perfformiadau yn ngwledydd y DU.
“Mae targedau presennol Cymru’n cuddio gwir berfformiad ac yn tanseilio atebolrwydd.”
Ychwanegodd fod yr amserau aros yn “symbol o bwysau ehangach ar wasanaeth iechyd sy’n cael ei reoli’n wael”.
Galwodd ar Lywodraeth Cymru i “fuddsoddi a moderneiddio” y gwasanaeth er mwyn sicrhau ei fod yn “addas ar gyfer ei bwrpas”.