Siocled Mars Llun: Wikipedia
Mae ymgyrch wedi’i sefydlu ar wefannau cymdeithasol yn galw ar gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru i foicotio cwmni siocled Mars ar ôl iddyn nhw ddatgan eu cefnogaeth i dîm Lloegr yn Ewro 2016.
Mae hysbyseb newydd y cwmni Americanaidd yn dangos golygfa ar faes y gad lle mae milwyr o Loegr yn cyrraedd Ffrainc ar gefn ceffyl. Mae’r hysbyseb wedyn yn gofyn i wylwyr drydar fideo ohonyn nhw eu hunain yn llafarganu ‘We love you England’.
Mae’r hysbyseb yn cael ei dangos ar y teledu, gan gynnwys S4C, ac mewn sinemâu.
Ond mae cefnogwyr wedi dangos eu dicter, gan ofyn pam nad oes ymgyrchoedd tebyg ar gyfer timau Cymru a Gogledd Iwerddon.
Nid dyma’r tro cyntaf i gwmni mawr gael eu beirniadu am gefnogi Lloegr. Mae Sainsbury’s a rhai siopau chwaraeon hefyd wedi bod yn tynnu sylw at Loegr yn eu siopau yng Nghymru.
Ond ers diwedd 2015, mae archfarchnad Lidl wedi datgan eu cefnogaeth i Gymru, Lloegr a’r Alban. Er eu bod nhw’n swyddogol yn cefnogi Lloegr, maen nhw’n gwerthu rhai nwyddau sy’n datgan cefnogaeth i Gymru a’r Alban hefyd.