Gwaith dur Tata ym Mhort Talbot Llun: PA
Mae’r cwmnïau sydd wedi dangos diddordeb mewn prynu asedau Tata yn y DU, yn cynnwys rhai o’r DU, India, China ac America.
Mae disgwyl i’r cwmni o India drafod yn Mumbai heddiw a phenderfynu ar restr fer o brynwyr posib ar gyfer ei fusnes ym Mhrydain, sy’n cynnwys ei safle dur mwyaf ym Mhort Talbot.
Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ac Ysgrifennydd Busnes y DU, Sajid Javid, yn Mumbai, yn trafod â’r cwmni hefyd, wrth i gannoedd o weithwyr dur orymdeithio ar strydoedd Llundain.
Mae’n debyg mai Excalibur, grŵp o reolwyr Tata yn y DU, wedi’i arwain gan Stuart Wilkie; Liberty House, dan arweiniad y perchennog, Sanjeev Gupta; a Greybull Capital, a brynodd safle dur Tata yn Scunthorpe yn ddiweddar, yw’r ffefrynnau ar y rhestr fer.
Mae Excalibur wedi rhybuddio y gall hyd at 1,000 o swyddi fynd os bydd yn ennill y cytundeb i brynu’r busnes, ac mae trafodaethau wedi bod rhwng y grŵp a Liberty House, gan arwain at ddyfalu dros gynnig ar y cyd.
Prynwyr posib eraill
Mae cwmni dur JSW o India, cwmni haearn a dur Hebei o China, Endless, cwmni ecwiti preifat yn Leeds a Nucor, cwmni dur mwyaf yr Unol Daleithiau, hefyd wedi dangos diddordeb.
Fe wnaeth grŵp dur o’r Almaen, ThyssenKrupp, fynegi diddordeb hefyd, ond does dim sôn ei fod wedi gwneud cynnig am y busnes.