(Llun: Ben Birchall/PA)
Bydd cannoedd o weithwyr dur yn gorymdeithio heddiw i dynnu sylw at yr argyfwng yn eu diwydiant wrth i Tata lunio rhestr fer o grwpiau sydd â diddordeb mewn prynu’r busnes yn y DU.
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ac Ysgrifennydd Busnes Prydain, Sajid Javid, wedi teithio i Mumbai i drafod â bwrdd gweithredol y cwmni o India.
Os bydd y busnes yn cael ei werthu’n llwyddiannus heddiw, bydd yn achub miloedd o swyddi ledled Prydain, gan gynnwys safle dur Port Talbot, sy’n cyflogi tua 4,000 o weithwyr dur.
Cafwyd hyd at saith cynnig am y busnes ond mae disgwyl i Tata dorri’r nifer i lawr i ddau neu dri cyn gwneud penderfyniad o fewn yr wythnosau nesaf.
Mae cwmnïau o’r DU, India, China a’r Unol Daleithiau wedi mynegi diddordeb mewn prynu busnesau Tata yn y DU.
Bydd gweithwyr o safleoedd dur ledled y Deyrnas Unedig yn gorymdeithio drwy ganol Llundain er mwyn cadw pwysau ar y cwmni ac ar y Llywodraeth.
Dur o China
Mae undeb y TUC (Cyngres yr Undebau Llafur) wedi galw ar weinidogion i beidio â chefnogi cais China – sy’n cael y bai’n rhannol am yr argyfwng yn y DU – i gael mynediad i farchnad economaidd yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Frances O’Grady bod “dur rhad o China (sy’n cael ei ddympio yma) yn dirywio’r diwydiant dur ym Mhrydain.”
“Mae miloedd o swyddi a chymunedau dan fygythiad, ond mae’r Llywodraeth yn dal i gefnogi rhoi mynediad arbennig i’r farchnad i China,” meddai.
Ond yn ôl llefarydd ar ran Adran Fusnes Llywodraeth Prydain, mae nhw wedi mynd “ymhellach o lawer na llywodraethau’r gorffennol wrth bleidleisio am dollau ar ddympio dur.”
“Ac mae mesurau’r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn effeithiol iawn ar leihau mewnforion o China, dros 90% mewn llawer o achosion,” ychwanegodd.