Llun: PA
Mae hunan-fomiwr wedi lladd 10 o bobl yn Kabul ar ôl targedu cerbyd oedd yn cludo swyddogion llys.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth, Najib Danish, bod y bomiwr, oedd ar droed, wedi ffrwydro gwregys ffrwydron wrth iddo gerdded heibio’r cerbyd ym mhrifddinas Afghanistan.

Cafodd pedwar o bobl eraill eu hanafu yn yr ymosodiad yn ystod cyfnod prysur y bore.

Arweinydd newydd y Taliban

Daeth yr ymosodiad ar ôl i’r Taliban yn Afghanistan gyhoeddi eu harweinydd newydd yn dilyn marwolaeth Mullah Akhtar Mansour mewn ymosodiad gan awyrennau di-beilot yr Unol Daleithiau wythnos ddiwethaf.

Mae Mullah Haibatullah Akhundzada yn un o ddirprwyon Mansour a chredir ei fod wedi cael ei benodi yn dilyn cyfarfod o arweinwyr y Taliban ym Mhacistan.

Yn ôl llywodraethau’r Unol Daleithiau ac Afghanistan, roedd Mansour wedi ceisio atal y broses heddwch a’i fod wedi gwrthod cymryd rhan mewn trafodaethau yn gynharach eleni. Yn hytrach, medden nhw, roedd wedi dwysau’r rhyfel yn Afghanistan, sydd bellach wedi parhau am 15 mlynedd.

Nid oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ar hyn o bryd.