Y llythyr yn galw am sicrhau bod 100% o ynni Cymru yn ynni adnewyddadwy
Wrth i Aelodau Cynulliad ddechrau ar dymor newydd, mae criw o academyddion ac ymgyrchwyr amgylcheddol wedi arwyddo llythyr yn galw am eu hymrwymiad i ddatblygu adnoddau ynni adnewyddadwy i Gymru.
Mae’r llythyr agored yn cynnig strategaeth i drawsnewid polisi ynni Cymru, sef ‘Ail-Egnïo Cymru’, ac mae’n cael ei lunio gan y Sefydliad Materion Cymreig ar hyn o bryd.
Yn ôl yr Athro Emeritws Gareth Wyn Jones o Brifysgol Bangor, mae’r strategaeth “yn gynllun uchelgeisiol a chymhleth ac mi fydd yn cyffwrdd bron pob agwedd o’n bywydau – ond mae’n bosibl ei weithredu.”
O ganlyniad, mae’r llythyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio polisïau i leihau’r galw am ynni, cyflwyno nod o hunangynhaliaeth ynni i Gymru erbyn 2035, ynghyd â sicrhau bod 100% o ynni Cymru yn ynni adnewyddadwy o fewn 20 mlynedd.
‘Cyfle euraid’
Yn ei lythyr, mae Gareth Wyn Jones yn ategu bod ymrwymiadau eisoes wedi’u gwneud mewn cytundebau tebyg i COP Paris, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016.
Dywedodd fod datblygiadau ym maes technoleg ynni adnewyddadwy yn gam cadarnhaol, ond bod y “diffyg ewyllys gwleidyddol ac economaidd yn rhwystro cynnydd.”
Mae’r llythyr yn nodi bod cymdeithas “bron yn gwbl ddibynnol ar danwydd ffosil,” a bod eu llosgi “eisoes yn drychinebus ac y byddant yn y blynyddoedd i ddod yn gatastroffig.”
Ond, mae hefyd yn dweud bod “cyfle euraid” i weithredu ar hyn o bryd, a hynny oherwydd “cyfraddau llog isel, costau technolegau adnewyddadwy a’u technolegau cyswllt megis cronni trydan a gridiau clyfar yn gostwng, a cham wrth gam rydym yn ennill y pwerau datganoledig angenrheidiol i’w gweithredu.”
Yn ogystal â’r llythyr agored, mae 536 o bobol wedi llofnodi deiseb ar-lein yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cynllun i ‘Ail-Egnïo Cymru’.