Gwersyll Idomeni yng Ngwlad Groeg
Mae’r awdurdodau yng Ngwlad Groeg wedi dechrau symud ymfudwyr o wersyll  answyddogol mwyaf y wlad yn raddol, gan atal mynediad i’r ardal ac anfon dros 400 o heddlu gwrthderfysgaeth yno.

Yn ôl y Llywodraeth, fydd yr heddlu ddim yn defnyddio tactegau gorfodi, ac mae disgwyl i’r gwaith o symud yr ymfudwyr o wersyll Idomeni, ar y ffin â Macedonia, barhau rhwng wythnos a 10 diwrnod.

Mae chwe bws, oedd yn cludo 340 o bobol, eisoes wedi gadael yn ôl yr heddlu, gan deithio tuag at wersyll i ffoaduriaid newydd yn agos i ddinas fawr Thessaloniki, yng ngogledd Gwlad Groeg.

Ni does unrhyw adroddiadau o drais.

Sownd yn Idomeni

Mae amcangyfrifon bod gwersyll Idomeni yn gartref i 8,400 o bobol, gan gynnwys cannoedd o blant, y rhan fwyaf o Syria, Afghanistan ac Irac.

Ar un adeg, roedd 14,000 yno, ar ôl i Facedonia gau ei ffiniau ym mis Mawrth, ond mae’r niferoedd wedi lleihau wrth i bobol sylweddoli bod y ffin ar gau a derbyn cynigion yr awdurdodau i aros mewn llefydd eraill.

Yn Idomeni, mae’r rhan fwyaf wedi bod yn byw mewn pebyll mewn caeau ger traciau’r rheilffordd, tra bod asiantaethau cymorth yn gosod pebyll mawr i helpu i roi cartref i bobol.

Er gwaethaf ymdrechion awdurdodau Gwlad Groeg i anfon timau glanhau yn gyson a darparu toiledau cludadwy, mae glaw trwm yn golygu bod amodau byw gwael yno.

Mae’r heddlu a Llywodraeth y wlad yn dweud y bydd y trigolion yn symud i wersylloedd swyddogol sydd newydd gael eu cwblhau.

Mae dros 54,000 o ffoaduriaid wedi gorfod aros yng Ngwlad Groeg, ar ôl i wledydd y Balcanau ac Ewrop gau eu ffiniau i lif mawr o bobol sy’n dianc rhag rhyfel a thlodi yn eu mamwlad.