Mae Cymdeithas yr Iaith yn bwriadu gwneud cwyn swyddogol i’r BBC ar ôl i raglen Week in Week Out, ddefnydio “data gwallus” i gostio’r Safonau Iaith newydd.
Mae cyn-ystadegydd gyda Chomisiynydd y Gymraeg wedi beirniadu’r rhaglen hefyd, gan ddweud nad yw’r data sydd ar gael mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth newydd yn “ddigon cadarn.”
“Mae asesiadau’r Llywodraeth ei hunan, sy’n seiliedig ar gyngor ei heconomegwyr a’i hystadegwyr, yn datgan nad yw’r data sydd ar gael hyd yn hyn yn ddigon cadarn i’w ddefnyddio,” meddai Hywel Jones mewn datganiad.
“Er gwaethaf hynny, mae’n edrych fel bod y BBC, fwy na thebyg, wedi defnyddio’r un data gwallus i wneud symiau cefn amlen er mwyn creu pennawd trawiadol. Dydw i ddim yn credu bod hynny’n ffordd gyfrifol o ymdrin â mater cymhleth.”
Yn ôl Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, mae gan y gorfforaeth “gwestiynau mawr i’w hateb.”
Ffigurau ‘ddim yn ddibynadwy’
“Dyw’r ffigyrau ddim yn ddibynadwy. Dyw’r Safonau ddim wedi eu llunio eto ar gyfer llawer o gyrff cyhoeddus ac felly mae’n amhosibl gwybod beth fydd y dyletswyddau fydd arnyn nhw,” meddai.
“Ar ben hynny, mae materion penodol fel y ffaith bod Cyngor Wrecsam wedi cyfaddef goramcangyfrif eu costau o weithredu’r Safonau o gannoedd o filoedd o bunnoedd, ac mae cynhyrchydd y rhaglen wedi cyfaddef wrthon ni na wnaeth y BBC ystyried hynny wrth gyfrio’r ffigurau amheus yma.
“Dylai pobl Cymru gael yr hawl i weld, i glywed ac i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob maes bywyd. Mae’r rhan fwyaf o’r hawliau newydd dim ond yn sicrhau bod cynghorau yn gorfod cydymffurfio â’r hyn maen nhw wedi addo gwneud ers degawdau o dan gynlluniau iaith.
“Rydyn ni eisiau gweld defnydd y Gymraeg ym mhob maes bywyd; mae’r ddeddfwriaeth newydd yn sicrhau hawliau fel yr hawliau i wersi nofio Cymraeg a’r hawl i bobl sy’n dioddef o ddementia gael gofal yn Gymraeg.
“Mae’n rhyfeddol bod rhai cynghorau eisiau rhwystro rhai o bobl fwyaf bregus ein cymdeithas rhag cael gwasanaethau Cymraeg.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb y BBC a Llywodraeth Cymru.
Fe fydd rhaglen Week in Week Out yn cael ei darlledu heno am 10.40yh (nos Fawrth).