Mae dyn yn derbyn gofal seiciatryddol yn dilyn digwyddiad yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr nos Sadwrn.

Bu’r heddlu yn y tŷ yn ardal Bracla am bron i bedair awr cyn i’r dyn gael ei gludo i’r ysbyty.

Roedd degau o blismyn a’r Gwasanaeth Ambiwlans ar y safle ger Ysgol Gymraeg Bro Ogwr toc ar ôl 6 o’r gloch.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad.