Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol ar ferch fach yng ngorsaf drenau Llandaf.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r ardal o Gaerdydd brynhawn dydd Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n ymchwilio i’r digwyddiad.

Roedd y digwyddiad wedi achosi peth oedi i deithwyr, meddai cwmni Arriva Cymru.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu trafnidiaeth ar 0800 405040 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.