Mae disgwyl i gefnogwyr Brexit ddweud ddydd Sul y byddai aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn agor drysau Prydain i ragor o droseddwyr o Ewrop, tra bydd y rheiny sydd o blaid aros yn Ewrop yn dadlau y byddai costau byw yn codi 3% pe bai Prydain yn gadael.
Ym mhapur newydd The Sun, dywed Prif Weinidog Prydain, David Cameron y byddai teulu cyffredin yn talu £120 ychwanegol ar fwyd a diod y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd hefyd y byddai cost dillad yn codi 5%, y byddai cyflogau’n tyfu’n araf iawn y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, ac y byddai swyddi’n debygol o gael eu colli yn y byd masnach.
“Ydyn ni wir yn mynd i daflu hyn i ffwrdd? Pam fydden ni am wneud hyn i ni ein hunain, ynghanol darogan y bydd yr economi’n tyfu pe baen ni’n aros?
“Mae’r dystiolaeth yn glir: mae risgiau difrifol o adael yr Undeb Ewropeaidd – i’ch swydd, i’ch cyflog, i’r diogelwch economaidd y mae teuluoedd yn iawn i’w osod uwchlaw popeth arall.”
Mae Cameron wedi cael cefnogaeth penaethiaid nifer o siopau stryd fawr llwyddiannus, gan gynnwys Tesco, M&S, Sainsbury’s a B&Q.
Troseddwyr
Yn y cyfamser, mae’r rheiny sydd o blaid gadael wedi dadlau y byddai aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn cadw’r drws ar agor i droseddwyr a brawychwyr o ddwyrain Ewrop.
Yn ôl Gweinidog y Lluoedd Arfog, Penny Mordaunt, mae aelodaeth Twrci o’r Undeb Ewropeaidd yn gosod straen ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd yng ngwledydd Prydain.
Mae ymgyrchwyr yn honni bod y ffaith fod Twrci, Albania, Montenegro, Serbia a Macedonia yn dod â 12,726,000 o ddryllau ychwanegol i mewn i’r farchnad.
Maen nhw hefyd yn dadlau bod dwywaith cynifer o gollfarnau yn Nhwrci yn 2013 ag yr oedd yng ngwledydd Prydain.
Maen nhw hefyd yn dadlau bod nifer y mewnfudwyr a nifer y genedigaethau yn Nhwrci’n debygol o roi Prydain dan straen ychwanegol.