Kirsty Williams
Fe fydd cyfarfod arbennig o’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig heddiw yn penderfynu p’un a ydyn nhw’n cefnogi penderfyniad Kirsty Williams i dderbyn swydd Ysgrifennydd Addysg yng nghabinet Llywodraeth Cymru.
Mewn cyfarfod yn Y Drenewydd ym Mhowys heddiw, fe fydd cyfle i Kirsty Williams egluro yr hyn y cytunwyd rhyngddi hi a Phrif Weinidog llywodraeth Lafur Cymru, Carwyn Jones, yn dilyn yr etholiad ar Fai 5. Kirsty Williams ydi’r unig Aelod Cynulliad Rhyddfrydol a etholwyd i Fae Caerdydd eleni.
Mae arweinydd y Denocratiaid Rhyddfrydol yn Brydeinig wedi cefnogi dymuniad Kirsty Williams i dderbyn swydd yng nghabinet Carwyn Jones. Fe ddywedodd Tim Farron y byddai’n rhoi cyfle i’r blaid ddangos ei bod yn gallu gwneud gwahaniaeth.
Roedd Kirsty Williams eisoes wedi llwyddo i gael addewid i ostwng niferoedd mewn dosbarthiadau cynradd i 25, meddai Tim Farron wrth Radio Wales. Roedd yn pwysleisio ei bod hi hefyd wedi gwrthwynebu cynyddu ffioedd dysgu, un o’r pynciau a chwalodd gefnogaeth i’r blaid trwy wledydd Prydain.