Roedd Luke Barzewicz-Dower yn "gymeriad annwyl, cwrtais a pharchus", yn ôl ei brifathro (llun:Heddlu Dyfed Powys)
Mae teulu disgybl 15 oed fu farw ger Ysgol Penfro wedi talu teyrnged i “fab, ŵyr a brawd … oedd â chalon o aur”.
Cafwyd hyd i gorff Luke Barzewicz-Dower yn agos i’r ysgol dydd Llun, ac mae ymchwiliad yr heddlu ar ran y crwner yn parhau, ond dyw marwolaeth y bachgen ddim yn cael ei drin fel un amheus.
Prynhawn ddydd Mercher fe gafodd datganiad ei ryddhau ar ran teulu Luke Barzewicz-Dower gan Heddlu Dyfed Powys.
“Hoffwn dalu teyrnged i fab, ŵyr a brawd annwyl,” meddai’r teulu.
“Roedd gan Luke galon o aur ac fe fydd pawb oedd yn ei garu yn gweld colled ar ei ôl.”
Roedd Luke Barzewicz-Dower yn ddisgybl ym Mlwyddyn 10 yn Ysgol Penfro, ac fe ddywedodd y prifathro Frank Ciccotti bod yr ysgol yn cynnal cyfres o wasanaethau arbennig wrth i staff a disgyblion geisio dygymod â’r golled.