Roedd Andy Burnham Ysgrifennydd Iechyd am gyfnod yn ystod llywodraeth Lafur Gordon Brown (llun:PA)
Mae’r cyn-weinidog cabinet Llafur, Andy Burnham, wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll fel ymgeisydd ar gyfer Maer Manceinion.

Dywedodd yr Aelod Seneddol, a geisiodd gael ei ethol yn arweinydd y blaid Lafur llynedd, bod gwleidyddiaeth San Steffan yn “amherthnasol” i lawer o bobol.

Ond mynnodd nad oedd ei benderfyniad i sefyll yn y ddinas ogleddol yn 2017 yn awgrymu nad oedd o’n credu y gallai Llafur ennill yr etholiad cyffredinol yn 2020.

Cafodd ei benderfyniad i sefyll ei ddatgelu ar ddamwain wedi iddo newid enw’i gyfrif Twitter @andy4leader – gafodd ei ddefnyddio yn y ras arweinyddiaeth – i @andy4manchester.

Dinasoedd ‘yn adfywio Llafur’

Mae Andy Burnham yn dod o Lerpwl yn wreiddiol, ac wedi bod yn ymgyrchydd blaenllaw yn y frwydr dros gyfiawnder yn achos Hillsborough.

Mae wedi bod yn AS dros etholaeth Leigh ym Manceinion ers 2001, ac fe fynnodd y byddai ennill maeryddiaeth arall dros ei blaid yn dangos eu bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir.

“Dw i’n meddwl beth fyddwn ni’n gweld o fewn gwleidyddiaeth yw bod Llafur yn gallu cryfhau drwy beth sy’n digwydd yn ein dinasoedd a datganoli,” meddai Andy Burnham.

“Dyna ble bydd rhai o’r syniadau fydd yn siapio ein maniffesto yn 2020 yn dod o bosib – beth mae Sadiq [Khan] yn ei wneud yn Llundain, beth mae Marvin [Rees] yn ei wneud ym Mryste, a gobeithio mewn amser beth fydda i’n ei wneud fan hyn.

“Dyna ble bydd Llafur yn adnewyddu’i hun ac yn dychwelyd yn gryfach.”