Christopher Salmon
Mae cyn-Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys wedi ymosod ar Gyngor Sir Gâr a chyfeirio ato fel “ateb Cymru i’r cartél Sisilaidd.”

Gwnaeth Christopher Salmon ei sylwadau mewn blog sy’n myfyrio ynghylch y rhesymau tros golli ei rôl fel Comisiynydd yr Heddlu i Dafydd Llywelyn, Plaid Cymru, yn yr etholiadau ar Fai 5.

Wrth gyfeirio at Gyngor Sir Gâr fel y “cartél Sisilaidd” dywedodd ei fod yn “tynnu nifer helaeth o arian oddi wrth drigolion ac yn ei daenu ar ffefrynnau, llu o eiddo, yn bwlio gwrthwynebwyr, yn cyfethol ffrindiau ac yn atebol i neb, a’r lleiaf oll y cynghorwyr lleol.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Cyngor Sir Gâr i’r sylwadau hyn.

‘Rhwystredigaeth’

Yn ei flog, mae cyn-Gomisiynydd Ceidwadol Heddlu Dyfed-Powys yn mynd ymlaen i restru pethau na fydd yn “eu colli” o adael ei swydd, gan gynnwys pobl sy’n ‘ei ddiflasu ar y we’ a ‘mob yr heddlu.’

Wrth fyfyrio ynghylch methiant ei ymgyrch, mae Christopher Salmon yn ystyried digwyddiadau a wnaed yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, gan gynnwy gwaredu a hofrennydd yr heddlu gan gau’r safle ym Mhen-bre, ynghyd â lleihau nifer y camerau cylch cyfyng yn ardal Dyfed-Powys.

Er hyn, dywedodd “efallai mai’r rhwystredigaeth fwyaf o golli yw sylweddoli fod y cynlluniau dych chi wedi eu trafod yn frwdfrydig ar sawl carreg drws ddim yn mynd i weld golau dydd.”

Cyfeiriodd at ei olynydd, Dafydd Llywelyn, gan ddweud fod angen iddo “ddangos ei fod yn sefyll dros y cyhoedd, nid hen gydweithwyr yr heddlu. Os yw am warchod heddlu lleol, fe fydd ei wrthwynebwyr ddim yn San Steffan, fel y mae’n meddwl, ond ymysg uwch-rengoedd cenedlaethol, arolygwyr a staff cysylltiedig ym Mae Caerdydd.”

Mae modd darllen ei flog yn llawn, ‘Reflections on Defeat’, ar ei wefan.