Y Frenhines Llun: PA
Bydd diwygio carchardai wrth galon Araith y Frenhines ddydd Mercher wrth iddi amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Prydain ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Bydd hi’n cyhoeddi pa chwe charchar fydd yn cael eu diwygio, ac mae disgwyl i Wandsworth yn Llundain fod yn eu plith.
Mae’r mesurau newydd yn rhoi mwy o rym i lywodraethwyr y carchardai dros arian a’r gyfraith, gan gynnwys cyllidebau, cytundebau cenedlaethol, addysg, ymweliadau a phartneriaethau i adfer carcharorion fel bod modd eu rhyddhau i’r gymuned ar ddiwedd eu dedfryd.
Y pum carchar arall dan sylw yw Holme House (Swydd Durham), Kirklevington Grange (Gogledd Swydd Efrog), Coldingley (Swydd Surrey), High Down (Swydd Surrey) a Ranby (Swydd Nottingham).
Ymhlith y mesurau newydd fydd yn cael eu cyflwyno mae tagiau lloeren i fonitro symudiadau troseddwyr yn Swydd Nottingham, Swydd Gaerlŷr, Swydd Stafford, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Swydd Hertford, Swydd Bedford, Swydd Gaergrawnt a Swydd Northampton.
Gallai carcharorion dreulio’r penwythnos dan glo a gweddill yr wythnos gartref wrth iddyn nhw chwilio am waith.
Dywedodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron fod hon yn “araith un genedl… gan lywodraeth un genedl”.
Ychwanegodd fod y diwygiadau’n golygu mai “rhywle lle fydd bywydau’n cael eu newid” fydd carchardai.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Michael Gove fod “rhaid i garchardai wneud mwy i adfer carcharorion”.
Mesur Cymru
Mae disgwyl i’r araith hefyd gyfeirio at Fesur Cymru, fydd yn amlinellu dyfodol datganoli yng Nghymru.
Diben y Bil yw sicrhau y bydd gan Gymru reolaeth dros etholiadau, trafnidiaeth ac ynni.
Wrth newid pwyslais, bydd y Bil yn cyfeirio at ba ddeddfwriaeth fydd o dan reolaeth San Steffan, tra bod y Bil fel ag y mae e ar hyn o bryd yn cyfeirio at yr hyn sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.
Eithafiaeth
Yn y cyfamser, mae’r Gynghrair Efengylaidd wedi beirniadu elfen arall o araith y Frenhines, sef y Bil Eithafiaeth.
Dywedodd llefarydd ei bod yn “eithafol” dweud wrth grwpiau crefydd beth mae modd iddyn nhw ei ddysgu a’i bod yn “eithafol” anfon arolygwyr Ofsted i mewn i eglwysi os nad ydyn nhw’n dysgu gwerthoedd traddodiadol Prydeinig.
Bydd yr araith hefyd yn cyfeirio at fesurau llymach i gosbi gyrwyr sy’n lladd, sy’n cynnwys dedfrydau ar yr un lefel â llofruddion.
Y ddedfryd fwyaf ar hyn o bryd am achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus yw 14 o flynyddoedd ond ar gyfartaledd, pedair blynedd yn unig y mae’r rhai sy’n cael eu carcharu yn ei dreulio dan glo.
Bydd y Ddeddf Hawliau Dynol hefyd yn cael ei ddiddymu, a’i ddisodli gyda Bil Hawliau Prydeinig ond mae beirniaid yn dweud y gallai hynny beryglu Cytundeb Gwener y Groglith.
Bydd y system gofal a mabwysiadu hefyd yn cael sylw, ynghyd â chynlluniau i gyflwyno academïau yn lle ysgolion.