Gwaith dur Tata ym Mhort Talbot Llun: PA
Bydd cannoedd o weithwyr dur yn gorymdeithio yn Llundain ddiwedd y mis i ddwyn pwysau ar y Llywodraeth i sicrhau dyfodol i’r diwydiant.
Mae disgwyl i weithwyr o ledled Cymru a Lloegr ymgynnull ar 25 Mai, cyn cerdded heibio Downing Street a’r Senedd.
Mae’r rhan fwyaf sy’n bwriadu cymryd rhan yn yr orymdaith yn gweithio i gwmni Tata, a fydd yn gwerthu ei fusnes yn y DU, gan gynnwys y safle ym Mhort Talbot, sy’n cyflogi tua 4,000 o weithwyr.
Bwriad y gweithwyr yw mynnu bod y Llywodraeth yn helpu i sicrhau gwerthu Tata yn gyfrifol a chyflwyno strategaeth ddiwylliannol i gefnogi’r sector drwy’r argyfwng.
“Neges glir i’r llywodraeth”
“Ers misoedd, mae’r ymgyrch Achub Ein Dur, wedi tynnu sylw cannoedd ar filoedd o bobol ledled y DU,” medday Roy Rickhuss, ysgrifennydd cyffredinol undeb Community.
“Bydd yr orymdaith hon yn dod â gweithwyr dur i Lundain, i gyflwyno neges glir i’r llywodraeth: achubwch ein swyddi, cefnogwch ein cymunedau a sicrhewch ddyfodol i ddur Prydain.”
Dywedodd swyddog cenedlaethol Unite, Harish Patel, y bydd yr orymdaith yn dwyn pwysau ar y llywodraeth i weithredu.
“Rydym wedi cael llawer o siarad am bwysigrwydd ein diwydiant dur,” meddai.
“Bydd yr orymdaith hon am atgoffa’r Llywodraeth bod gweithredoedd yn bwysicach na geiriau.”