Fferm Parc, Pen y Gogarth, Llandudno, Llun: Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru
Mae cyfle unigryw i rywun llogi fferm anghysbell Pen y Gogarth, Llandudno, gwerth £1 miliwn, am £1 y flwyddyn.
Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru yn cynnig y denantiaeth 10 mlynedd i rywun sydd â “brwdfrydedd dros natur, pobol a lot o ddefaid” i gymryd yr awenau.
Bwriad y cynllun yw sicrhau y gall bywyd gwyllt yr ardal ffynnu, gan geisio achub cynefinoedd a rhywogaethau prin iawn, sydd ddim yn bodoli’n unman arall yn y byd.
Mae’r prosiect yn rhan o weledigaeth 10 mlynedd yr elusen i geisio dadwneud “dirywiad ym mywyd gwyllt” Cymru, lle mae 60% ohono wedi diflannu yn y 50 mlynedd ddiwethaf.
Mae Fferm Parc ar Ben y Gogarth yn dod â phraidd o ddefaid a hawliau pori yn barod, gyda’r defaid yn dod gan elusen Plantlife.
Gwaith caled
Ond er mai breuddwyd fyddai i sawl un ddod i fyw ar y llecyn hwn o Gymru, mae’r Ymddiriedolaeth yn rhybuddio bod ffermio’r tir yn waith caled.
Bydd yn rhaid i’r sawl sy’n prynu tenantiaeth y fferm roi natur yn gyntaf wrth fynd ati, a all fynd yn erbyn rhai dulliau o ffermio modern heddiw.
Mae’r dull ffermio anghonfensiynol o symud defaid yn gyson a gweithio o amgylch y 600,000 o bobol sy’n ymweld â’r lle bob blwyddyn yn siŵr o fod yn her.
“Oni bai ein bod yn gweithredu trefn pori benodol iawn, fyddwn ni ddim yn gweld y cynefinoedd mwyaf bregus hyn yn goroesi,” meddai Rheolwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth, William Greenwood.
“Er mwyn i Ben y Gogarth elwa, rydym yn edrych am denant sy’n gweld fferm gynhyrchiol fel un sy’n cynnal bywyd gwyllt iach ac sy’n annog ymwelwyr i weithredu dros natur, yn ogystal â chynhyrchu bwyd da ac iach.
“Ac i roi’r dechrau gorau iddo fe neu hi, a’r cyfle gorau i lwyddo, rydym yn cymryd y pwysau ariannol i ffwrdd o dalu am rent y fferm, yr hawliau pori a’r tŷ fferm bob blwyddyn.”
Mae gan Fferm Parc 145 o aceri, ac mae ganddi hawliau pori i 720 o aceri’n ychwanegol.
Mae modd gwneud cais am y fferm ar wefan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru.