Mae pryder diweddar am brinder meddygon teulu yn y gogledd wedi arwain at wahoddiad gan Gyngor Tref Bae Colwyn i feddygon fynychu cyfarfod llawn fis nesaf i leisio’u barn am y sefyllfa.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Tref Bae Colwyn wrth golwg360 eu bod wedi gweld llythyr gan un feddygfa yn mynegi bod pwysau cynyddol ar feddygfeydd lleol oherwydd llai o feddygon a chynnydd yn nifer y cleifion i bob meddyg.

“Am hynny, dy’n ni wedi llythyru â rhyw chwe meddygfa i weld a yw’r broblem yn un cyffredin,” meddai’r llefarydd.

Ychwanegodd y bydd y cynrychiolwyr yn cael gwahoddiad i’r cyfarfod ar Fehefin 6.

‘Cynnydd sylweddol’

 

Mae’r pryder am bwysau gwaith i’w deimlo’n ehangach ar draws y gogledd, gyda meddygfa Llys Meddyg yng Nghonwy yn cyhoeddi’r wythnos diwethaf y bydden nhw’n cau ym mis Hydref oherwydd pwysau gwaith.

Mewn llythyr agored at 3,770 o’u cleifion, dywedodd Dr Catherine Hindle a Dr Rebecca Smith nad oedden nhw’n medru “parhau i weithio oriau hir – tua 12 awr y dydd”.

“Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn llwyth gwaith meddygon teulu, yn dilyn symud nifer o wasanaethau o ysbytai i ofal cynradd, sydd heb gael cyllid y byddai wedi’n galluogi i dalu premiwm i recriwtio meddygon a nyrsys ychwanegol,” ychwanegodd y ddwy.

Mae’r cam hwn yn dilyn penderfyniadau tebyg gan feddygon teulu ym Mhrestatyn, Rhuddlan, Wrecsam, Glan Conwy a Blaenau Ffestiniog.

Cydnabod yr ‘her’

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Er ein bod yn derbyn yr her o recriwtio meddygon teulu mewn rhai rhannau o Gymru, fel mewn ardaloedd eraill o’r DU, mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod cynnydd o 8% wedi bod yn nifer y meddygon teulu ers 2005.”

Dywedodd hefyd eu bod yn cynnig pecyn o gymorth ar gyfer meddygfeydd sy’n wynebu’r posibilrwydd o gau ac yn cydweithio i “adnabod a goresgyn unrhyw rwystrau wrth recriwtio a datblygu ffyrdd newydd i wella mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol.”

Ymateb y Bwrdd Iechyd

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod wedi cysylltu â chlerc y Dref am wahoddiad i fynychu’r cyfarfod.

“Nid oedd y clerc yn teimlo ei bod hi’n angenrheidiol ar hyn o bryd gan mai cyfarfod yn unig â meddygfeydd Bae Colwyn oedd y Cynghorwyr eisiau, er mwyn deall a oes unrhyw faterion recriwtio penodol iddynt,” meddai’r llefarydd.

Er hyn, dywedodd y llefarydd fod y Bwrdd yn ceisio “darparu arweiniad a chefnogaeth i bob meddygfa ar draws gogledd Cymru.”

“Ble mae pryderon penodol yn cael eu codi, mae’r rhain yn cael eu hystyried gyda’r meddygfeydd a chytunir ar gamau gweithredu.

“Mae hyn wedi cynnwys darparu cefnogaeth drwy wasanaethau ychwanegol a fydd yn helpu i leddfu pwysau a brofir a chefnogaeth i wneud gwelliannau i adeiladau,” ychwanegodd.