Kirsty Williams
Mae un o Aelodau Cynulliad Llafur wedi awgrymu y byddai’n hoffi gweld unig AC y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Bae, Kirsty Williams, yn rhan o’r Llywodraeth newydd.
Wrth siarad â rhaglen y Post Cyntaf y bore ma, dywedodd Alun Davies, AC dros Flaenau Gwent, y byddai’n “croesawu gweld Kirsty yn chwarae rhan mewn llywodraeth neu gefnogi’r llywodraeth.”
“Dwi’n meddwl bod gan Kirsty (Williams) gyfraniad i’w wneud,” ychwanegodd.
Roedd yn siarad yn dilyn yr helbul a fu yn y Senedd ddydd Mercher, pan fethodd Carwyn Jones, arweinydd Llafur Cymru, i sicrhau digon o bleidleisiau yn y siambr i ddod yn Brif Weinidog Cymru.
Fe wnaeth aelodau Plaid Cymru, UKIP a’r Ceidwadwyr bleidleisio dros Leanne Wood, gyda Kirsty Williams yn pleidleisio dros Carwyn Jones, gan wneud y ddau’n gyfartal gyda 29 pleidlais yr un.
“Os ydych chi’n gofyn i Alun Davies, Aelod Blaenau Gwent, buaswn i’n hapus iawn delio â Kirsty Williams, dwi’n credu bod hi’n aelod hynod o dalentog, ond mater personol i mi yw hynny, dwi heb drafod hynny ag unrhyw un o fy mhlaid,” meddai Alun Davies.
Trafodaethau Plaid a Llafur yn parhau
Bydd trafodaethau rhwng Llafur a Phlaid Cymru’n parhau heddiw, a fydd yn ceisio penderfynu ar y ffordd ymlaen i ffurfio llywodraeth.
Dywedodd Alun Davies, ei fod yn “hapus iawn” trafod â Phlaid Cymru dros strwythur y llywodraeth newydd ond pwysleisiodd, “mae gennym ni (Llafur) hawl i sefydlu llywodraeth yn seiliedig ar fandad cawson ni yn yr etholiad wythnos ddiwethaf.”
Cyhuddodd Plaid Cymru o wneud cytundeb â’r Ceidwadwyr Cymreig ac UKIP cyn y bleidlais, rhywbeth yr oedd Leanne Wood wedi dweud na fyddai byth yn gwneud.
“Mae Plaid Cymru wedi dweud un peth cyn etholiad a gwneud y gwrthwyneb yn syth ar ôl yr etholiad,” meddai Alun Davies.
“Pan oeddwn i yn y siambr yn pleidleisio ddoe, o’n i’n gweld bod ‘na deal wedi’i wneud, bod Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a UKIP yn deall ei gilydd, oedd y Ceidwadwyr ac UKIP wedi cael eu chwipio i gefnogi Leanne Wood.”
Mae Plaid Cymru yn gwadu gwneud unrhyw fath o gytundeb â’r pleidiau asgell dde cyn y bleidlais.