Mae ymgyrch Vote Leave wedi cyhuddo ITV o fod yn “rhan o’r ymgyrch i aros” yn Ewrop yn dilyn ffrae dros drefniadau dadl deledu cyn y refferendwm.
Bydd pobol Prydain yn pleidleisio ar 23 Mehefin er mwyn penderfynu a ydyn nhw am aros yn yr Undeb Ewropeaidd ai peidio.
Ond mae’r Prif Weinidog David Cameron, sydd eisiau aros yn yr UE, wedi gwrthod cymryd rhan mewn dadleuon teledu yn erbyn aelodau eraill o’r blaid Geidwadol sydd o blaid ‘gadael’.
Yn hytrach, fe fydd yn wynebu arweinydd UKIP Nigel Farage mewn digwyddiad byw ar y refferendwm fydd yn cael ei dangos ar ITV.
‘Gwrthod dadlau â Thorïaid’
Ond mae’r ymgyrch swyddogol o blaid gadael Ewrop wedi cwyno, gan gyhuddo’r darlledwr o fynd yn ôl ar eu gair.
“[Maen nhw] wedi dweud un peth yn gyhoeddus ac yna yn slei bach wedi gadael i Rif 10 ddewis eu gwrthwynebydd,” meddai llefarydd Vote Leave, Rob Oxley.
Yn ôl yr ymgyrch, mae David Cameron wedi gwrthod cytuno i ddadl â gwleidyddion Ceidwadol o blaid gadael gan gynnwys Michael Gove a Boris Johnson.
“Mae ITV mwy neu lai wedi dod yn rhan o’r ymgyrch ‘Aros’. Fe awn ni â nhw i’r llys ac fe wnawn ni ennill,” ychwanegodd ffynhonnell arall o Vote Leave.
Amddiffyn eu cornel
Roedd Vote Leave wedi honni hefyd bod ITV yn cael ei “harwain” gan unigolion megis eu golygydd gwleidyddol Robert Peston, “oedd wedi ymgyrchu dros weld Prydain yn ymuno â’r Ewro”.
Ond wfftio hynny wnaeth y darlledwr, gan drydar neges yn mynnu bod ITV yn hollol ddiduedd yn y drafodaeth ar Ewrop.
“Alla’i bron ddim credu fod angen i mi ddweud hyn: dydw i erioed wedi ymgyrchu dros yr ewro,” meddai Robert Peston.
Ychwanegodd yr Arglwydd Grade, cyn-gadeirydd y BBC ac ITV, bod Vote Leave wedi ceisio “bygwth ITV â sgileffeithiau gwleidyddol” dros y ddadl.