Donald Trump (Llun: AP/David Goldman)
Mae’n debyg bod ymgeisydd y Gweriniaethwyr yn y ras am y Tŷ Gwyn wedi newid ei farn ynglŷn â gwahardd  Mwslimiaid rhag teithio i’r Unol Daleithiau.

Wrth ymateb i sylwadau gan Faer newydd Llundain, Sadiq Khan, dywedodd Donald Trump ar Radio Fox News, mai “dim ond awgrym” oedd ei safbwynt.

Roedd Sadiq Khan, sy’n Fwslim, wedi codi pryderon na fyddai’n gallu teithio i’r Unol Daleithiau os mai Donald Trump fydd arlywydd nesaf America.

Roedd y biliwnydd o America wedi cynnig y gallai Sadiq Khan fod yn “eithriad”, ond fe wrthododd Maer Llundain, gan ddweud y byddai safbwynt Donald Trump yn gwneud y DU ac America yn “llai diogel”.

Roedd “awgrym” Donald Trump i wahardd Mwslemiaid rhag mynd i America yn dilyn yr ymosodiadau ym Mharis, ond mae’r ffigwr dadleuol wedi cefnogi ei safbwynt hyd at nawr.