Llinell biced undeb PCS yn Llanberis Llun: Elfyn Jones-Roberts
Yn y cam nesaf yn eu hymgyrch hir, mae gweithwyr amgueddfeydd Cymru wedi mynd â’u hachos dros fwy o dâl ar benwythnosau i Fae Caerdydd.

Mae gweithwyr undeb PCS yr amgueddfeydd wedi cynnal streic amhenodol ers 28 Ebrill, dros anghydfod sydd wedi para dwy flynedd ynglŷn â newidiadau i weithio ar benwythnosau.

Yn lle cyfeirio eu hachos at Amgueddfa Genedlaethol Cymru, mae’r gweithwyr  bellach yn galw ar Brif Weinidog Cymru i ymyrryd.

Yn ôl Elfyn Jones-Roberts, sy’n gynrychiolydd undeb PCS ac yn gweithio yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, mae Carwyn Jones, wedi “rhoi addewid” y bydd yn camu i mewn i geisio dod â’r anghydfod i ben.

Targedu Carwyn Jones

“Y bwriad yw targedu Carwyn Jones a’i gael o i gadw ei air,” meddai Elfyn Jones-Roberts wrth golwg360, am y rali sydd wedi’i threfnu y tu allan i’r Senedd heddiw.

“Rydan ni’n gobeithio bod Carwyn yn mynd i gyfarfod (yr Amgueddfa) a dod â’r anghydfod i ben ryw ffordd neu’i gilydd. Be ‘da ni isio ydy bod ein haelodau ni yn cael cytundeb teg, a bod ni’n cael hynny cyn gynted â phosib fel y gallwn ni fynd yn ôl i’n gwaith.”

Mae’r gweithwyr yn anhapus y byddan nhw’n cael eu talu llai am weithio ar benwythnosau ond mae’r Amgueddfa’n mynnu bod yn rhaid iddyn nhw wneud arbedion yn dilyn toriadau i’w chyllideb gan Lywodraeth Cymru.

“Rydyn ni isio financial recognition am weithio penwythnosau, achos ‘da ni’n teimlo nad ydy dydd Sadwrn a dydd Sul yr un fath â diwrnod cyffredinol o waith,” ychwanegodd Elfyn Jones-Roberts, sy’n dweud bod eu hymgyrch “ddim yn annhebyg” i frwydr y meddygon iau yn Lloegr.

Mae disgwyl y bydd sawl Aelod Cynulliad, gan gynnwys Lynne Neagle a Leanne Wood yn siarad â’r gweithwyr heddiw i estyn eu cefnogaeth i’r ymgyrch.

O ganlyniad i’r gweithredu gan weithwyr, mae rhai o amserau agor a gwasanaethau’r Amgueddfa wedi newid, gyda’r sefydliad yn dweud wrth bobol am wirio eu trefniadau cyn teithio.

Dim arwydd o ddiwedd y streic

Mae’r gweithwyr yn benderfynol o ennill y frwydr, a does dim arwydd y bydd y streic yn dod i ben yn fuan, gyda chyfraniadau ariannol i weithwyr yn dod o bob cwr o Brydain, meddai Elfyn Jones-Roberts.

“Ar hyn o bryd, mae’r streic yn un parhaol a dyna ydy’r sefyllfa. Fedra’i ddim gweld dim newid yn y sefyllfa. Mae’r aelodau’n teimlo’n gryf iawn am yr hyn mae’r amgueddfa’n trio gwneud.

“Mae’r mater dal mor danllyd i’r aelodau ag y mae ‘di bod.”

Nid oedd Llywodraeth Cymru am wneud sylw ar y mater.