Mae o leiaf 29 o bobl wedi marw ar ôl i fom car ffrwydro mewn ardal Shiaidd yn Baghdad, meddai swyddogion yn Irac.

Cafodd o leiaf 50 o bobl eraill eu hanafu pan ffrwydrodd y bom fore Mercher mewn marchnad brysur yn rhanbarth Dinas Sadr yn Baghdad.

Mae ’na ofnau y bydd nifer y meirw yn cynyddu.

Yn fuan wedi’r ffrwydrad fe wnaeth y grŵp eithafol y Wladwriaeth Islamaidd (IS), sy’n gwrthwynebu Mwslimiaid Shiaidd, hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad mewn datganiad ar y we.

Maen nhw’n honni mai hunan-fomiwr oedd wedi cynnal yr ymosodiad, ond mae swyddogion Irac yn gwadu hynny.

Cafodd nifer o geir ac adeiladau gerllaw hefyd eu difrodi, meddai’r heddlu.

Mannau cyhoeddus sydd â phoblogaeth sylweddol o bobl Shiaidd sy’n cael eu targedu gan amlaf gan filwriaethwyr Swnni, sy’n ceisio tanseilio ymdrechion Llywodraeth Irac i sicrhau diogelwch yn y brifddinas.

Mae IS yn parhau i reoli rhannau sylweddol o ogledd a gorllewin Irac, gan gynnwys Mosul,  ail ddinas fwyaf Irac.