Neil Hamilton
Bydd Aelodau Cynulliad Ukip yn cyfarfod heddiw i drafod pwy fydd arwain y grŵp yn ystod y pum mlynedd nesaf ym Mae Caerdydd.

Y gred yw mai saith aelod fydd yn pleidleisio i ddewis arweinydd, gyda disgwyl y bydd Neil Hamilton, y cyn Aelod Seneddol Ceidwadol yn Lloegr, yn herio’r arweinydd presennol, Nathan Gill.

Gallai Neil Hamilton, sy’n AC dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, wneud pethau’n anodd i Nathan Gill, a hynny ar ôl i’r arweinydd ddweud mewn dadl deledu na fyddai wedi’i ddewis i sefyll fel AC yn yr etholiadau.

Ymatebodd ei wraig, Christine Hamilton, drwy drydar neges yn galw Nathan Gill yn “gadfridog o’r drydedd radd”.

Cafodd Ukip dros 200,000 o bleidleisiau dros Gymru yn yr etholiadau eleni, a chafodd saith aelod eu hethol am y tro cyntaf erioed.