Iain Duncan Smith (Llun: Y Ganolfan Gyfiawnder Cymdeithasol)
Mae David Cameron wedi cael ei gyhuddo o ganiatáu i’r Almaen ei orfodi i hepgor rhannau allweddol o’i gynlluniau i ddiwygio perthynas Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Yn ôl Iain Duncan Smith, sydd o blaid gadael yr Undeb, roedd Berlin wedi defnyddio ei “grym” i atal rhai o’r diwygiadau roedd y Prif Weinidog yn awyddus i Frwsel eu cyflwyno,  gan gynnwys y syniad o roi cap ar nifer y gweithwyr o dramor sy’n dod i’r UE.

Mae’r cyn-Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, a ymddiswyddodd ym mis Mawrth mewn protest yn erbyn toriadau i fudd-daliadau anabledd, wedi cyhuddo Cameron o “ildio” i’r Almaen wrth i’r rhwygiadau o fewn y Blaid Geidwadol ynglŷn ag Ewrop barhau.

Mae disgwyl i Iain Duncan Smith wneud araith yn pwysleisio’r achos dros adael yr Undeb yn y refferendwm ar 23 Mehefin.

Fe wnaeth Iain Duncan Smith ei sylwadau mewn cyfweliad gyda The Sun ond dywedodd ffynhonnell o Rif 10 wrth y papur newydd bod David Cameron wedi gwneud y penderfyniad ynglŷn â mewnfudwyr “gan mai dyna oedd y ffordd orau ymlaen.”