Mae dynes y credir ei bod wedi cael ei llofruddio yn Sir Caerffili wedi cael ei henwi yn Iris Owens o Ystrad Mynach.

Cafodd yr heddlu eu galw am 5:45 brynhawn ddydd Mawrth i gyfeiriad yn Ffordd Nelson, Ystrad Mynach, ger yr orsaf drenau.

Ar ôl cyrraedd, daeth swyddogion o hyd i gorff Iris Owens oedd yn 75 mlwydd oed.

Mae dyn lleol 47 mlwydd oed ar hyn o bryd yn nalfa’r heddlu. Ddoe cafodd warant i’w gadw o dan glo yn hirach nag arfer wedi cael ei gymeradwyo yn Llys Ynadon Casnewydd.

Mae’r heddlu yn apelio am unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd, neu unrhyw un oedd yn adnabod Iris Owens, am wybodaeth. Mae modd cysylltu â nhw drwy alw 101 a dyfynnu rhif cyfeirnod 363 03/05/2016.