Gydag Ukip yn camu’n hyderus â saith sedd i’r Cynulliad am y tro cyntaf, nid nhw’n unig yw’r blaid “ymylol” sydd wedi cael tipyn o lwyddiant yn etholiad 2016.

Un o ganlyniadau mwyaf annisgwyl yr etholiad neithiwr y pleidleisiau llwyddodd y blaid Diddymu Cynulliad Cymru i’w hennill.

Cafodd y blaid ei sefydlu ar gyfer yr etholiad hwn, “yn dilyn blynyddoedd o rwystredigaeth a phryder dros drefniadau datganoli yng Nghymru”.

Cafodd Plaid Diddymu Cynulliad Cymru, oedd yn sefyll am y tro cyntaf, 44,286 o bleidleisiau ledled Cymru, sef 4.4% o’r bleidlais ranbarthol – 1.4% yn fwy na Phlaid Werdd Cymru.

Hefyd fe lwyddodd i ennill mwy o bleidleisiau na’r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhanbarthau Gogledd Cymru ac yn Ne-ddwyrain Cymru, lle cafodd 7,870 o bleidleisiau.

Ac yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru llwyddodd y blaid i ennill 10,707 o bleidleisiau.

Fel mae ei henw yn nodi, prif amcan y blaid yw diddymu’r llywodraeth ym Mae Caerdydd a throsglwyddo pwerau yn ôl i Lywodraeth San Steffan

Cynnydd sylweddol y Monster Raving Loonies

Mae wedi bod yn noson dda i’r blaid tynnu coes, y Monster Raving Loony Party hefyd, a gynyddodd ei phleidleisiau dros bedair gwaith, o 1,237 yn 2011 i 5,743.